Neidio i'r prif gynnwy

Yr Is-adran Gofal Sylfaenol

Mae’r Is-adran Gofal Sylfaenol yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol i ddylanwadu ar welliant yn iechyd y boblogaeth drwy leoliadau gofal sylfaenol. Arweinir yr is-adran gan Gyfarwyddwr a gaiff ei gefnogi gan ymgynghorwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd ac mae’n cydweithio â’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, byrddau iechyd, a Llywodraeth Cymru.

Mae’r rôl iechyd y cyhoedd gofal iechyd hon yn hanfodol oherwydd:

  • Mae’r mwyafrif o ofal iechyd yn digwydd mewn gofal sylfaenol; mae gofal iechyd yn siapio canlyniadau ac anghydraddoldebau iechyd.
  • Mae hyrwyddo safbwyntiau’r boblogaeth yn helpu i sicrhau bod unrhyw waith ail-ddylunio/diwygio yn y gwasanaeth yn cael effaith gadarnhaol ar raddfa fawr.
  • Mae gofal sylfaenol yn bartneriaid hanfodol bwysig wrth ddarparu ymyriadau ataliol sy’n lleihau baich clefydau yng Nghymru.

Mae’r Is-adran wedi’i threfnu’n ddau dîm; yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol, a’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol.

 

Mae gan yr Hwb Datblygu ac Arloesi Gofal Sylfaenol ddau gylch gorchwyl, sef 1) Cefnogi ein partneriaid wrth ddarparu cynlluniau cenedlaethol ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned yng Nghymru a 2) Datblygu dull cydgysylltiedig ar gyfer atal mewn gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned:

 

Mae’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol yn canolbwyntio ar gefnogi ac arwain ar wella gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol yng Nghymru:

  • Mae Rhaglen Ddiwygio’r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDC) yn anelu at ddatblygu gwasanaethau deintyddol sy’n darparu gofal deintyddol ataliol ac sy’n seiliedig ar anghenion.
  • Mae rhaglen y Cynllun Gwên yn anelu at wella iechyd y geg ymhlith plant Cymru.
  • Mae’r rhaglen epidemioleg ddeintyddol yn cynnwys arolygon cenedlaethol o blant rhwng 5 a 12 mlwydd oed yng Nghymru.
  • Mae rhagor o wybodaeth am y rhain a meysydd gwaith eraill ar dudalennau’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol.

Meysydd gwaith allweddol

 

 

Cysylltu â ni     

Is-adran Gofal Sylfaenol

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Llawr 5, Rhif 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ

 

Ymholiadau cyffredinol i’r Hwb Gofal Sylfaenol: PrimaryCare.One@wales.nhs.uk

Ymholiadau cyffredinol i’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol: dentalpublichealth@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar Twitter: @PrimaryCareOne