Neidio i'r prif gynnwy

Atal Gordewdra mewn Gofal Sylfaenol

Gweld yr adroddiadau → 

Mae gordewdra yn fater iechyd y cyhoedd sylweddol sy’n tyfu yng Nghymru. Mae’r pandemig wedi amlygu ymhellach y risgiau cynyddol o ganlyniadau andwyol i bobl sy’n byw gyda gordewdra.

Yn 2020, nodwyd bod 61% o oedolion yng Nghymru yn cael eu hystyried dros eu pwysau neu’n ordew; ystyrir bod 36% dros eu pwysau, ystyrir bod 22% yn ordew a 3% yn afiachus o ordew. Amcangyfrifir bod gordewdra yn costio £73 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, sy’n cynyddu i £86 miliwn wrth gynnwys pobl dros eu pwysau, ac mae’n gosod baich ar wasanaethau gofal iechyd.

Mae atal gordewdra wedi’i gydnabod yn her gymhleth ac mae llawer o ffactorau ar lefelau unigol, cymunedol, cymdeithasol a byd-eang sy'n cyfrannu ato. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi’r tueddiadau presennol o ran gordewdra a chyhoeddodd strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach 2019 ac yn fwy diweddar Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021 (AWWMP).

Mae AWWMP yn canolbwyntio ar daith rheoli pwysau’r unigolyn o ymyrraeth gynnar i gefnogaeth arbenigol. Mae’n cydnabod pwysigrwydd gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned, gan ddisgrifio’r lleoliadau hyn fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pryderon iechyd a llesiant. 

Mae’r Hwb Gofal Sylfaenol wedi datblygu dau adroddiad i amlygu sut y gall gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned gefnogi atal gordewdra a rheoli pwysau yng Nghymru, a’r gefnogaeth sydd ei angen ar y gweithlu i gyflawni’r rôl bwysig hon. Mae argymhellion o’r adroddiadau hyn wedi llywio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol (2022-24) i gefnogi’r gwaith o roi elfennau gofal sylfaenol yr AWWMP ar waith.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd ag amcanion Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach 2019 a’i fwriad yw cefnogi gweithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021.

 

Adroddiadau

 

Adnoddau

 

 

 

Os hoffech gael yr adroddiad llawn ar gyfer pob allbwn, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm gofal sylfaenol: PrimaryCare.One@wales.nhs.uk