Neidio i'r prif gynnwy

Dealltwriaeth newydd o'r boblogaeth gofalwyr di-dâl ar lefel awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru (10.5% o boblogaeth Cymru) sy'n darparu help neu gymorth i unigolion oherwydd bod ganddynt gyflyrau corfforol neu iechyd meddwl hirdymor neu salwch, neu broblemau sy'n ymwneud â henaint (1). Mae deall iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl yn hanfodol er mwyn helpu i nodi'r rhai y gall fod angen cymorth arnynt i gynnal eu hiechyd da wrth iddynt ofalu am eraill hefyd. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth yn ddarniog ar draws systemau data gwahanol, gan ei gwneud yn fwy anodd deall anghenion mewn ardal a darparu cynnig cymorth integredig. Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau gofalwyr er mwyn helpu i lywio math a lefel y cymorth (2), ond gall llwybrau eraill i gymorth gynnwys drwy ofal iechyd sylfaenol a gofal cymdeithasol. 

Mae'r adroddiad byr hwn, a gynhaliwyd gan Labordy Data Rhwydweithiol (NDL) Cymru, yn ymchwilio i'r potensial o gyfuno data asesu gofalwyr awdurdodau lleol â chofnodion gofal iechyd arferol er mwyn deall demograffeg ac anghenion gofalwyr di-dâl mewn ardal leol yn well. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â Blaenoriaeth 1 strategaeth Llywodraeth Cymru 2021 gyda'r nod o nodi gofalwyr di-dâl (3). 

Mae NDL Cymru yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Prifysgol Abertawe, a Gofal Cymdeithasol Cymru, ac un o bum tîm dadansoddol uwch yn y DU. Wedi'u hariannu gan y Sefydliad Iechyd, mae'r timau hyn yn cydweithio gan ddefnyddio setiau data cysylltiedig i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal (4).

Ar gyfer yr ymchwil hon, gweithiodd NDL Cymru gydag awdurdodau lleol Castell-nedd  Port Talbot, Abertawe, a Sir Ddinbych. Cysylltodd y tîm ddata asesu gofalwyr, a gesglir yn rheolaidd gan yr awdurdodau hyn, â chofnod iechyd electronig (EHR) a gesglir yn helaeth yn rheolaidd a data gofal iechyd gweinyddol wedi'u lleoli yn Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) (TRE) (5). Rhoddodd y dull hwn fewnwelediadau newydd i broffil demograffig, statws iechyd, a defnydd gofal iechyd gofalwyr di-dâl ar draws y tri rhanbarth hyn.

Canfyddiadau allweddol:

  • Gwelwyd cynnydd yn nifer y gofalwyr di-dâl a gofnodwyd mewn gofal sylfaenol yn ystod y pandemig COVID-19.

  • Nid oedd llawer o orgyffwrdd yn y boblogaeth o ofalwyr di-dâl a gofnodwyd yn y data gofal sylfaenol a'r data asesiadau gofalwyr. 

  • At ei gilydd, menywod o grwpiau oedran hŷn oedd y gofalwyr di-dâl yn bennaf ac roeddent yn byw mewn ardaloedd â llai o amddifadedd.

  • Roedd iechyd gofalwyr di-dâl yn waeth nag iechyd y rhai nad oeddent yn ofalwyr ac roeddent yn gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau iechyd.

  • Roedd y defnydd o wasanaethau iechyd gan ofalwyr di-dâl a nodwyd gan awdurdodau lleol yn uwch nag ymysg y gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol, er bod hyn yn bennaf i'w briodoli i oedran hŷn gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol.

Mae'r astudiaeth hon wedi dangos ei bod yn bosibl defnyddio data a gesglir yn rheolaidd ar lefel leol, sydd gan lywodraeth leol wedi'u cysylltu â ffynonellau data cofnod iechyd electronig (EHR) a gofal iechyd gweinyddol dienw ar lefel unigolyn, a gesglir yn rheolaidd, sydd ar gael o fewn Banc Data SAIL, i gael dealltwriaeth o'r boblogaeth o ofalwyr di-dâl ar lefel leol. Awgryma'r astudiaeth hon hefyd fod ffynonellau data awdurdodau lleol a phractisau cyffredinol yn cofnodi poblogaethau demograffig gwahanol. Mae’n anodd, drwy ddata a gesglir yn rheolaidd, nodi gofalwyr di-dâl a defnyddio hynny fel sail i gynlluniau i gefnogi gofalwyr di-dâl, ac mae hynny'n amlygu’r angen am system fwy integredig i gefnogi gofalwyr di-dâl i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Awduron a diolchiadau

(1) Gofal di-dâl yn ôl oedran, rhyw ac amddifadedd, Cymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 17 Awst 2023]. Ar gael o:  ons.gov.uk

(2) Asesiad o anghenion gofalwr - Gofalwyr Cymru [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 24 Ionawr 2024]; Ar gael o: carersuk.org

(3) Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl: cynllun cyflawni 2021 [HTML] | LLYW.CYMRU [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 5 Medi 2023]. Ar gael o: llyw.cymru

(4) Y Labordy Data Rhwydweithiol - Y Sefydliad Iechyd [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 24 Ionawr 2024]; Ar gael o: health.org.uk

(5) Hafan - Banc Data SAIL [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 24 Ionawr 2024]; Ar gael o: saildatabank.com