Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd

Yn gyffredinol, iselder a chyflwr poenus oedd y ddau brif gyflwr hirdymor, cyn ac ar ôl ystyried y gwahaniaethau mewn oedran. 

Roedd iechyd gofalwyr di-dâl yn waeth nag iechyd y rhai nad oeddent yn ofalwyr.

  • Gwelwyd bod gan ofalwyr di-dâl gyfraddau amlafiacheddau sylweddol uwch na'r rhai nad oeddent yn ofalwyr* ar draws Castell-nedd Port-talbot (cymhareb cyfradd 1.2, CH 95% 1.1-1.4), Abertawe (1.3, 1.1-1.6) a Sir Ddinbych (1.4, 1.1-1.7). Er bod cyfraddau amlafiacheddau ychydig yn uwch ymysg gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol, o gymharu â gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol, nid oedd y gwahaniaeth yn ystadegol arwyddocaol (Ffigur 4). 

  • Gwelir cyfradd uwch o amlafiacheddau ymhlith gofalwyr di-dâl na’r rhai nad ydynt yn ofalwyr* ac mae hyn yn gyson ag ymchwil arall (6).

  • Mae'r cyfraddau amlafiacheddau uwch hyn yn dangos bod gan ofalwyr di-dâl iechyd gwaeth na'r rhai nad ydynt yn ofalwyr*.

*Noder: mae'r “rhai nad ydynt yn ofalwyr” yn cyfeirio at boblogaeth sy'n cyfateb i oedran, rhyw ac ardal ddaearyddol unigolion na chawsant eu nodi yn y boblogaeth gofalwyr di-dâl. Am fanylion pellach, gweler methodology doc.

 

(6) Huang F, Song J, Davies AR, Anderson C, Bentley L, Carter B, et al. Gofalwyr di-dâl yng Nghymru: Creu e-garfan i ddeall cyflyrau iechyd hirdymor ymhlith gofalwyr di-dâl yng Nghymru. 2021 [dyfynnwyd 1 Medi 2022]; Ar gael o: icc.gig.cymru