Neidio i'r prif gynnwy

Demograffeg

Menywod o grwpiau oedran hŷn oedd y gofalwyr di-dâl yn bennaf ac roeddent yn orgynrychioliadol o'r rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf

  • Menywod oedd y gofalwyr di-dâl yn bennaf (68.3% Castell-nedd Port Talbot; 65.6% Abertawe; 67.1% Sir Ddinbych) ac roeddent yn sylweddol hŷn na'r boblogaeth oedolion gyffredinol (Castell-nedd Port Talbot: oedran cymedrig 54.9 oed ymysg gofalwyr di-dâl, 50.3 ymysg y boblogaeth oedolion gyffredinol; Abertawe: 63.7, 48.4; Sir Ddinbych: 56.5, 52.5) (1,16). Mae’r canlyniadau hyn yn gyson â'r canfyddiadau ar ofalwyr hunangofnodedig o Gyfrifiad 2021 a gwaith ymchwil arall (1,6).

  • Fodd bynnag, er bod y Cyfrifiad wedi canfod cyfran uwch o ofalwyr di-dâl yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf ledled Cymru, canfu’r astudiaeth hon fod gorgynrychiolaeth o ofalwyr di-dâl sy’n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (1.3%) ac Abertawe (0.3%).

  • Mae hon yn ystyriaeth bwysig wrth bennu anghenion cymorth, gan fod y Cyfrifiad hefyd wedi canfod bod gofalwyr di-dâl sy'n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yn darparu mwy o oriau o ofal yr wythnos.

Roedd gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn hŷn na'r rhai a nodwyd gan bractisau cyffredinol

  • Roedd gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn hŷn na gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol (yr oedran cymedrig a nodwyd gan ALl Castell-nedd Port Talbot oedd 63.5 oed, yr oedran cymedrig a nodwyd gan bractisau cyffredinol oedd 52.7 oed, p <.001; Abertawe 67.5, 62.1, p <.001; Sir Ddinbych 68.0, 52.6 , p <.001). Mae’r dosbarthiad oedran hŷn hwn ymhlith gofalwyr di-dâl a nodwyd gan awdurdodau lleol i'w weld yn Ffigur 3. Gallai hyn adlewyrchu’r ffaith bod awdurdodau lleol, sydd ag adnoddau cyfyngedig, yn canolbwyntio mwy ar achosion brys o bosibl, gan olygu bod eu data'n gwyro mwy tuag at ofalwyr di-dâl hŷn sy'n fwy agored i niwed.

  • Nid oedd unrhyw dystiolaeth o wahaniaethau mewn dosbarthiadau o ran rhyw neu amddifadedd rhwng gofalwyr di-dâl a nodwyd gan awdurdodau lleol a gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol.

  • Ar y cyd â’r gorgyffwrdd bach rhwng poblogaethau a nodwyd gan yr awdurdodau lleol a phoblogaethau a nodwyd gan bractisau cyffredinol, mae hyn yn awgrymu bod y ddwy ffynhonnell ddata yn nodi poblogaethau gofalwyr di-dâl sy’n wahanol o ran eu demograffeg, gan amlygu’r angen i edrych ar draws ffynonellau data i bennu anghenion cymorth gofalwyr di-dâl fel poblogaeth.

 

(1) Unpaid care by age, sex and deprivation, England and Wales – y Swyddfa Ystadegau Gwladol [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 17 Awst 2023]. Ar gael o: ons.gov.uk

(6) Huang F, Song J, Davies AR, Anderson C, Bentley L, Carter B, et al. Gofalwyr di-dâl yng Nghymru: Creu e-garfan i ddeall cyflyrau iechyd hirdymor ymhlith gofalwyr di-dâl yng Nghymru. 2021 [dyfynnwyd 1 Medi 2022]; Ar gael o: icc.gig.cymru

(16) Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020) Estimates of the population for the UK, England and Wales, Scotland and Northern Ireland- Mid-2019: [dyfynnwyd 17 Awst 2023]. Ar gael yn: ons.gov.uk