Neidio i'r prif gynnwy

Pwysigrwydd cysylltu data lleol i gefnogi gofalwyr di-dâl

  • Amcangyfrifodd Cyfrifiad 2021 fod 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Benywod, y rhai 55-59 oed a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf oedd fwyaf tebygol o fod yn darparu gofal di-dâl (1).

  • Mae’n hysbys bod gan ofalwyr di-dâl iechyd corfforol a meddyliol gwaeth na’r rhai nad ydynt yn ofalwyr (6). Gall diffyg cymorth pan fydd ei angen gael effaith andwyol ar ofalwyr di-dâl a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt (7,8). 

  • Mae gwybodaeth am y boblogaeth o ofalwyr di-dâl ar lefel leol yn bwysig er mwyn bod yn sail i gymorth a ddarperir i ofalwyr di-dâl ar draws asiantaethau (3,9,10).

  • Un anhawster mawr wrth gasglu gwybodaeth er mwyn darparu cymorth i ofalwyr di-dâl yw'r cam cyntaf o adnabod gofalwyr di-dâl. Mae nifer o arolygon cenedlaethol (e.e. Cyfrifiad, Arolwg Cenedlaethol Cymru) yn ceisio canfod nifer y gofalwyr di-dâl drwy broses hunanadnabod. Fodd bynnag, mae llawer o resymau pam na fydd pobl sy'n darparu gofal i eraill yn cydnabod eu bod yn ofalwyr (11,12,13).  

  • Y tu hwnt i arolygon, gall gofalwyr di-dâl hefyd gael eu cofnodi mewn ffynonellau data iechyd a gweinyddol arferol. Yng Nghymru, rydym eisoes wedi dangos ei bod yn bosibl pennu’r boblogaeth o ofalwyr di-dâl sy’n hysbys i ofal sylfaenol (6). Mae gan unrhyw un sy’n darparu gofal di-dâl yng Nghymru hawl i gael asesiad gofalwr gan eu hawdurdod lleol er mwyn asesu unrhyw angen am gymorth. Mae'r data asesiadau gofalwyr a gynhelir gan awdurdodau lleol yn ffynhonnell o ddata a gesglir yn rheolaidd nad yw wedi'i harchwilio fel rhan o'r ymchwil ar ofalwyr di-dâl.

  • Mae hyn yn cynnig y cyfle unigryw i ddod â data o wahanol ffynonellau ynghyd i helpu i greu darlun o boblogaethau lleol o ofalwyr di-dâl, sy’n bwysig ar gyfer darparu cymorth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau gofal iechyd, elusennau, a ffynonellau cymorth eraill. 

Nod:

Nod yr astudiaeth hon oedd cael gwell dealltwriaeth o ofalwyr di-dâl ar lefel awdurdod lleol gan ddefnyddio data awdurdodau lleol a gofal sylfaenol wedi'u cysylltu â ffynonellau data cofnod iechyd electronig (EHR) a gofal iechyd gweinyddol dienw ar lefel unigolyn, a gesglir yn rheolaidd, sydd ar gael o fewn Banc Data SAIL i roi trosolwg o ddemograffeg, iechyd a defnydd y boblogaeth hon o wasanaethau iechyd.

(1) Unpaid care by age, sex and deprivation, England and Wales – y Swyddfa Ystadegau Gwladol [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 17 Awst 2023]. Ar gael o:
ons.gov.uk

(3) Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl: cynllun cyflawni 2021 [HTML] | LLYWODRAETH CYMRU [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 5 Medi 2023]. Ar gael o:
llyw.cymru

(6) Huang F, Song J, Davies AR, Anderson C, Bentley L, Carter B, et al. Gofalwyr di-dâl yng Nghymru: Creu e-garfan i ddeall cyflyrau iechyd hirdymor ymhlith gofalwyr di-dâl yng Nghymru. 2021 [dyfynnwyd 1 Medi 2022]; Ar gael o: icc.gig.cymru

(7) Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Senedd Cymru. Ymchwiliad i effaith COVID-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 3 – Effaith ar y sector gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl. 2021 [dyfynnwyd 17 Awst 2023]; Ar gael o: senedd.cymru

(8) Carers UK. Caring Behind Closed Doors: six months on. Carers UK. 2020. Ar gael o:  carersuk.org

(9) Understanding unpaid carers and their access to support - The Health Foundation [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 5 Medi 2023]. Ar gael o: health.org.uk

(10) Trosolwg o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a llesiant… | Gofal Cymdeithasol Cymru [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 5 Medi 2023]. Ar gael o: gofalcymdeithasol.cymru

(11) Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. DRODDIAD AR BROFIADAU GOFALWYR DI-DÂL O GYMUNEDAU DU A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG. 2022. Ar gael o: carers.org

(12) Identification of Carers in GP Practices - Resources - Carers Trust [Y rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 5 Medi 2023]. Ar gael o: carers.org

(13) Carers Week. I care Carers Week report on unpaid carer identification. 2023. Ar gael o:  carersweek.org