Neidio i'r prif gynnwy

Awduron a diolchiadau

Ariannwyd y gwaith hwn gan y Sefydliad Iechyd. Elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU yw'r Sefydliad Iechyd. Mae'r Sefydliad Iechyd yn ariannu'r rhaglen Labordy Data Rhwydweithiol.

Mae Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) yn fenter gydweithredol sy'n cwmpasu Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), Prifysgol Abertawe (Banc Data SAIL), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae NDL Cymru yn cynnwys Alisha Davies, Laura Bentley, Georgia Beckett-Hill, Jerlyn Peh, Karen Hodgson, Giles Greene, Jiao Song, Bethan Carter, Ashley Akbari, Owen Davies, Lisa Trigg, Gareth John, Joanna Dundon, Claire Newman. Cafodd dadansoddiadau SAIL eu cymeradwyo gan Banel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth SAIL (Prosiect 1429). Diolch hefyd i Claire Morgan o Gofalwyr Cymru, Tim Banks o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Grŵp Cleifion a Sicrwydd Cyhoeddus DHCW a Phanel Defnyddwyr SAIL Prifysgol Abertawe am gefnogi ein hymgysylltiad.

Gyda diolch i aelodau Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot (Ian Rees, Marianne Matthews), Awdurdod Lleol Abertawe (Catherine Stallard, Andrew Fung, Rachel Thomas, Michelle Glen), Awdurdod Lleol Sir Ddinbych (Alison Hay, Dyfan Barr), Awdurdod Lleol Gwynedd (Linda Evans, Dave Roberts, Mark Parry, Rhodri Owain Lloyd), a Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (Michael Langford) a ddarparodd ddata a gwybodaeth arbenigol ar gyfer y dadansoddiad hwn.

Hoffem hefyd gydnabod yr holl ddarparwyr data sy'n darparu data dienw ar gyfer gwaith ymchwil. Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr Claudine Anderson, Danny Donovan a Chiara Tuveri yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a gefnogodd y gwaith o lunio'r adroddiad hwn.