Nid yw brechlynnau'r frech wen (MVA) yn cael eu gwneud i'w defnyddio fel mater o drefn mewn unrhyw wlad, felly, prin yw'r cyflenwadau byd-eang.
Bydd gwasanaethau iechyd rhywiol y GIG yn cysylltu â'r rhai sy'n debygol o fod yn wynebu'r risg uchaf er mwyn iddynt ddod i mewn yn gyntaf.
Pan fydd rhagor o gyflenwad o'r brechlyn ar gael, ystyrir cynnig y brechiad i bobl y tu allan i'r grwpiau cychwynnol hyn.
Yn y cyfamser, dylai dynion hoyw a deurywiol fod yn ymwybodol o'r risgiau o mpox a bod yn ofalus wrth fynd i ddigwyddiadau a sefyllfaoedd lle gall cyswllt agos ddigwydd. Dylai pawb osgoi cyswllt agos ag unrhyw un sy'n sâl, sydd â phothelli neu frech.