Neidio i'r prif gynnwy

Nid wyf yn y grŵp a argymhellir ar hyn o bryd ar gyfer y brechiadau MVA hyn – a oes arnaf angen un?

Er bod mwy o bobl wedi cael diagnosis o mpox yn ddiweddar, mae nifer y bobl yn gyffredinol yn y DU yn parhau'n isel ac mae'r risg o ddal mpox yn isel iawn. 

Mae'r haint dim ond yn cael ei drosglwyddo'n hawdd drwy gyswllt agos, gan gynnwys cyswllt croen â chroen. Felly, mae'r brechlyn dim ond yn cael ei gynnig i'r bobl hynny sy'n debygol o gael cyswllt agos iawn neu aml ag achosion. Drwy gynnig brechlyn i'r unigolion hyn, y gobaith yw lleihau lledaeniad yr haint, ac felly lleihau'r risg i'r boblogaeth gyfan. 

Nid yw'r brechlyn yn cael ei gynnig i staff gofal iechyd sy'n gweithio mewn wardiau neu glinigau nad ydynt yn arbenigol, hyd yn oed y rhai mewn gwasanaethau rheng flaen ac unedau damweiniau ac achosion brys. Mae'r staff hynny yn wynebu risg isel iawn o ddod i gysylltiad â'r haint – a dylent gymryd rhagofalon atal heintiau ychwanegol os gofynnir iddynt weld unrhyw achosion a amheuir. 

Nid yw'r brechlyn ychwaith yn cael ei gynnig i GBMSM sydd â llai o bartneriaid, gan fod gan y grŵp hwn lawer llai o siawns o ddod i gysylltiad agos ag achosion na'r rhai sydd â nifer o bartneriaid.