Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer pwy mae brechiad y frech wen (MVA) yn cael ei argymell?

Mae brechiad y frech wen (MVA) yn cael ei gynnig i bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddod i gysylltiad ag mpox er mwyn helpu i'w hamddiffyn. 

Gan fod mpox yn cael ei achosi gan feirws sy'n debyg i'r frech wen, mae brechiadnau yn erbyn y frech wen yn cael eu defnyddio i atal neu leihau difrifoldeb haint mpox. 

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell defnyddio'r brechiad MVA yn fwy eang yn y rhai sy'n wynebu risg er mwyn helpu i leihau lledaeniad yr haint. 

Ar hyn o bryd, mae UKHSA yn argymell bod MVA yn cael ei gynnig i'r canlynol: 

  • gweithwyr gofal iechyd sy'n gofalu am unigolyn sydd ag achos o Mpox wedi'i gadarnhau, neu sydd ar fin dechrau gofalu amdanynt. Mae hyn yn cynnwys rhai aelodau o staff mewn clinigau iechyd rhywiol sy'n asesu achosion a amheuir 

  • dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM), sy'n wynebu'r risg uchaf o ddod i gysylltiad. Bydd eich meddyg/nyrs yn eich cynghori os ydynt o'r farn eich bod yn wynebu risg uchel – er enghraifft os oes gennych nifer o bartneriaid, yn cael rhyw mewn grŵp neu'n mynd i leoliadau ‘rhyw ar y safle’. Efallai y bydd staff sy'n gweithio mewn safleoedd o'r fath yn gymwys hefyd. 

  • pobl sydd eisoes wedi cael cysylltiad agos ag unigolyn sydd ag mpox wedi'i gadarnhau. Dylid cynnig brechiad ag un dos o'r brechiad cyn gynted â phosibl (yn ddelfrydol o fewn 4 diwrnod i gysylltiad ond weithiau gellir ei roi hyd at 14 diwrnod) 

Fel arfer mae angen dau ddos o'r brechiad, ond oherwydd y cyflenwad cyfyngedig i ddechrau, dim ond un dos o'r brechiad a gynigiwyd, i gynifer o bobl gymwys â phosibl. Mae'n bwysig dod i gael eich dos cyntaf cyn gynted ag y cewch eich gwahodd. 

Ym mis Medi 2022, oherwydd nifer y dosau sydd wedi'u rhoi eisoes, y gostyngiad yn nifer yr achosion a’r cyflenwad presennol o frechiadau, cytunodd y JCVI mai’r flaenoriaeth nesaf yw cynnig ail ddos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion sy’n cael rhyw gyda dynion sy’n wynebu’r risg fwyaf o tua 2 i 3 mis ar ôl eu dos cyntaf felly yng Nghymru mae byrddau iechyd bellach yn dechrau gwahodd unigolion sydd wedi cael dos cyntaf am ail ddos. Bydd hyn yn anelu at ddarparu gwarchodaeth barhaol hirach ac yn diogelu'r gymuned rhag cyflwyno dilynol o wledydd lle mae'r feirws yn dal i gylchredeg ar lefelau uwch.