Neidio i'r prif gynnwy

Goruchwyliaeth ac epidemioleg y frech goch

Epidemioleg

Mae’r frech goch wedi bod yn hysbysadwy yng Nghymru a Lloegr ers 1940, ac roedd yr hysbysiadau’n amrywio rhwng 160,000 ac 800,000 o achosion y flwyddyn, gyda phob anterth yn digwydd mewn cylchoedd o ddwy flynedd.

Cyn cyflwyno brechlyn y frech goch yn 1968, roedd tua 100 o blant y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw o'r afiechyd.

Gostyngodd yr hysbysiadau am y frech goch rhwng 1968 a hyd at ddiwedd y 1980au, roedd yr hysbysiadau blynyddol wedi gostwng i rhwng 50,000 a 100,000 yn unig.

Yn dilyn cyflwyno’r brechlyn MMR ym mis Hydref 1988 a chyflawni lefelau brechu o fwy na 90%, gostyngodd yr hysbysiadau am y frech goch yn gynyddol i’r lefelau isaf ers i gofnodion ddechrau ac i bob pwrpas ataliwyd lledaeniad y frech goch erbyn canol y 1990au.

Fodd bynnag, yn 2006 gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion a gadarnhawyd yn y DU gyfan a'r farwolaeth gyntaf o'r frech goch yn y DU ers 14 mlynedd. Parhaodd y cynnydd hwn drwy gydol y blynyddoedd dilynol ac yn ystod 2012 cadarnhawyd 2,030 o achosion o’r frech goch yng Nghymru a Lloegr gyda 118 yng Nghymru.

Rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Gorffennaf 2013, cafwyd llawer iawn o achosion o'r frech goch yng Nghymru. Ardal Abertawe oedd y canolbwynt, ond effeithiodd ar nifer o ardaloedd eraill yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, cadarnhawyd 447 o achosion o'r frech goch yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru, derbyniwyd 64 o achosion i'r ysbyty a bu un farwolaeth.

Roedd yr achosion yn deillio o ganlyniad i lefelau hanesyddol isel o frechlynnau MMR yn yr ardal, a oedd yn gysylltiedig dros dro ag adroddiadau ar y cyfryngau am sgîl-effeithiau’r MMR, sydd wedi’u profi ers hynny i fod yn ddi-sail ac yn anghywir.

Yn ystod ymgyrch dal i fyny a roddwyd ar waith yn 2013 fel ymateb i’r achosion, rhoddwyd mwy na 77,000 o ddosau o’r brechlyn MMR ac mae hyn wedi lleihau’r posibilrwydd o achosion pellach ar y raddfa hon yng Nghymru. Canfu dadansoddiad o ddata'r achosion hyn bod cwrs dau ddos ​​o'r brechlyn MMR yn 99% effeithiol o ran gwarchod rhag y frech goch

Ers yr achosion yn 2012/13, bu gostyngiad yn nifer yr achosion o'r frech goch yng Nghymru, er bod rhai achosion, ar raddfa lai, wedi digwydd o hyd.

Yn 2016, cafodd 52 o achosion o’r frech goch eu cadarnhau yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig â gwyliau cerddoriaeth a chelfyddydau rhwng mis Mehefin a mis Hydref

Y frech goch yng Nghymru: 1996-2023

Cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth a nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau o’r frech goch yng Nghymru rhwng 1996 a 2023

Cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth a nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau o’r frech goch yng Nghymru rhwng 1996 a 2023

Cadarnhad yn labordy'r frech goch UKHSA ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
Blwyddyn Nifer o achosion Cyfradd am bob 100,000 o boblogaeth
1996 0 0
1997 0 0
1998 1 0.03
1999 0 0
2000 1 0.03
2001 3 0.10
2002 3 0.10
2003 44 1.50
2004 10 0.34
2005 0 0.00
2006 4 0.13
2007 13 0.43
2008 39 1.29
2009 159 5.23
2010 8 0.26
2011 19 0.62
2012 118 3.84
2013 506 16.82
2014 22 0.71
2015 0 0.00
2016 19 0.61
2017 21 0.67
2018 20 0.64
2019 11 0.35
2020 0 0.00
2021 0 0.00
2022 0 0.00
2023 9 0.29

Achosion wedi’u cadarnhau o’r frech goch yng Nghymru yn ôl oedran 1996-2023

Blwyddyn <1 1-4 5-9 10-14 15-24 25-34 35+ Ddim yn gwybod Pob oedran
1996 0 0 0 0 0 0 0 0 0
1997 0 0 0 0 0 0 0 0 0
1998 0 0 0 0 0 0 1 0 1
1999 0 0 0 0 0 0 0 0 0
2000 0 0 1 0 0 0 0 0 1
2001 0 0 0 1 2 0 0 0 3
2002 1 1 1 0 0 0 0 0 3
2003 1 19 12 5 4 2 1 0 44
2004 1 4 4 0 0 1 0 0 10
2005 0 0 0 0 0 0 0 0 0
2006 0 2 1 1 0 0 0 0 4
2007 0 7 5 1 0 0 0 0 13
2008 0 7 8 11 10 3 0 0 39
2009 13 37 49 36 16 4 3 1 159
2010 0 2 3 0 0 0 2 0 8
2011 2 2 4 4 5 1 1 0 19
2012 9 15 25 39 16 8 6 0 118
2013 31 48 48 164 152 34 29 0 506
2014 2 4 2 3 8 1 2 0 22
2015 0 0 0 0 0 0 0 0 0
2016 1 2 1 5 8 0 2 0 19
2017 2 4 2 8 3 2 0 0 21
2018 2 2 2 1 5 7 1 0 20
2019 2 1 1 0 2 1 4 0 11
2020 0 0 0 0 0 0 0 0 0
2021 0 0 0 0 0 0 0 0 0
2022 0 0 0 0 0 0 0 0 0
2023 1 5 1 1 0 0 1 0 9

Achosion wedi’u cadarnhau o’r frech goch yn 2019-2023 yn ôl chwarter o ran ymddangosiad

Chwarter Nifer yr achosion yn 2019 % o cyfanswm 2019 Nifer yr achosion yn 2020 % o cyfanswm 2020 Nifer yr achosion yn 2021 % o cyfanswm 2021 Nifer yr achosion yn 2022 % o cyfanswm 2022 Nifer yr achosion yn 2023 % o cyfanswm 2023
Ion-Maw 1 7.7 0 - 0 - 0 - 0 -
Ebri-Meh 3 23.1 0 - 0 - 0 - 0 -
Gorff-Med 5 38.5 0 - 0 - 0 - 4 44.4
Hyd-Rhag 2 18.2 0 - 0 - 0 - 5 55.6

Ffynonellau data goruchwyliaeth ar gyfer Cymru

Mae’r frech goch yn un o nifer o afiechydon hysbysadwy. Mae gan feddygon yng Nghymru ddyletswydd statudol i hysbysu 'Swyddog Priodol' yr Awdurdod Lleol am achosion a amheuir o’r frech goch yn seiliedig ar symptomau clinigol, fel rheol cyn i'r diagnosis gael ei gadarnhau gan brofion labordy. Fel rheol mae’r hysbysiadau a wneir am y frech goch yn llawer mwy na’r niferoedd gwirioneddol o achosion a gadarnheir. Mae sawl brech arall yn cael ei chamgymryd yn aml am y frech goch.

Gofynnir am samplau poer gan rai cleifion yng Nghymru (a Lloegr) sydd ag amheuaeth o’r frech goch os na chafwyd cadarnhad drwy ddulliau eraill (h.y. prawf gwaed mewn ysbyty os yw’r claf yn yr ysbyty). Anfonir y samplau poer i UKHSA yn Colindale am gadarnhad o haint y frech goch.

Dyma'r data a ddefnyddir i gynhyrchu'r graff tueddiadau a'r tablau data cysylltiedig ar y wefan hon.

Dylid nodi, yn ystod yr achosion o’r frech goch yn 2009 a 2012/13 yng Nghymru, na chynhaliwyd cadarnhad firolegol drwy brofion labordy ar gyfer pob achos o’r frech goch a dybiwyd yn glinigol.

 

Imiwneiddio rhag y frech goch

Gellir atal y frech goch gyda brechlyn hynod effeithiol a diogel. Mae hyn yn rhan o'r imiwneiddiad rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) gyda dos cyntaf tua 13 mis oed ac ail ddos (atgyfnerthu) tua thair blwydd a hanner. Mae oedolion ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi methu eu brechlyn MMR yn blant hefyd yn cael eu hannog i gael eu himiwneiddio.

Bydd cwrs cyflawn o'r ddau ddos yn gwarchod mwy na 95% o blant rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.

Mae’r nifer sy’n cael y brechlyn MMR (a brechlynnau plentyndod eraill) yng Nghymru wedi’i gofnodi yn adroddiad COVER (Coverage of Vaccination Evaluation Rapidly). Cyhoeddir hwn yn chwarterol ac yn flynyddol. Defnyddiwch y ddolen isod i weld holl adroddiadau COVER o 2003 hyd yma.

Mwy o wybodaeth am y brechlyn MMR.