Gall. Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig gyflenwi meddyginiaethau nad ydynt yn chwistrellu o dan PGD a rhoi'r rhain i'r claf ar gyfer hunanweinyddu neu i'w gweinyddu an berson arall e.e. HCSW.
Mae hyn yn golygu y gallai HCSW weinyddu brechlyn ffliw mewndrwynol byw (LAIV) i blentyn y mae'r brechlyn wedi'i gyflenwi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig o dan PGD. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod gweinyddu'r feddyginiaeth a gyflenwir yn unol â'r PGD, y mae angen iddo nodi bod y feddyginiaeth yn cael ei chyflenwi i'w gweinyddu wedyn gan berson arall (neu ar gyfer hunanweinyddu).
Ni ellir cyflenwi brechlynnau y gellir eu chwistrellu fel hyn felly ni ellir rhoi brechlyn ffliw anweithredol, yr eryr a/neu niwmococol o dan PGD na rhoi hyn i HCSW i'w weinyddu. Rhaid i bob brechlyn y gellir ei chwistrellu a roddir gan HCSW fod o dan Gyfarwyddyd Penodol i Gleifion (PSD).
Rhaid i HCSW gael eu hyfforddi'n briodol ac yn gymwys, gweithio'n unol â deddfwriaeth a meddu ar lefel briodol o gymorth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.
[diweddarwyd 4 Mehefin 2021]
A all cyflenwi neu weinyddu gael ei ddirprwyo i ymarferydd arall o dan PGD? (Rhagfyr 2020, Gwasanaeth Fferylliaeth Arbenigol)
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau