Neidio i'r prif gynnwy

A all Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) gael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig i weinyddu brechlynnau fel rhan o hyfforddiant cymhwysedd imiwneiddio ac asesu?

Mae Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion – Canllaw ymarfer meddyginiaethau [MPG2]  (2017, NICE) yn nodi nad yw PGD yn addas ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n cael hyfforddiant perthnasol, er enghraifft, ar gyfer gweinyddu pigiadau mewngyhyrol. 

Dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys sydd wedi'u hyfforddi'n llawn ddylai ddefnyddio PGD. 

A all gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n chwistrellwyr dan hyfforddiant, weinyddu pigiadau o dan PGD tra'n cael eu goruchwylio? (2019, Gwasanaeth Fferylliaeth Arbenigol) 

[29 Awst 2019]