Neidio i'r prif gynnwy

Polysacarid niwmococol (PPV) (23 seroteipiau) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae llid yr ymennydd niwmococol yn afiechyd hysbysadwy.

Mae afiechyd niwmococol yn haint anadlol sy'n aml yn ymddangos fel niwmonia neu otitis media acíwt, a all ddatblygu i fod yn ymledol gan achosi bacteremia neu'n anaml, llid yr ymennydd. Mae afiechyd niwmococol yn cael ei achosi gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae, ac mae llawer o wahanol seroteipiau o hwn. Mae'n effeithio'n bennaf ar yr ifanc iawn a'r hen iawn. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddo gyfnod deor sydd wedi'i ddiffinio'n wael a all fod mor fyr ag un i dri diwrnod.

Oherwydd galw byd-eang cynyddol, mae cyfyngu wedi bod ar y cyflenwad o Pneumovax23 (PPV23) ers 2017. O ganlyniad, mae cyfarwyddyd wedi’i gyhoeddi ar flaenoriaethu’r stoc sydd ar gael, yn fwyaf diweddar yn y diweddariad Mai 2021 ar cyflenwad Pneumovax23.

Brechu arferol

Mae dos sengl o 0.5ml o PPV23 yn cael ei gynnig yn arferol i bob oedolyn 65 oed a hŷn.

Brechu anarferol

Efallai y bydd angen brechlyn PPV ar unigolion sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol. Mae lefelau gwrthgyrff yn debygol o ostwng yn gyflym mewn unigolion ag asplenia, dueg diffygiol neu afiechyd cronig ar yr arennau ac, felly, argymhellir ailimiwneiddio â PPV23 bob pum mlynedd yn y grwpiau hyn.

Edrychwch ar Niwmococol: y llyfr gwyrdd, pennod 25 - GOV.UK.

Y brechlyn

Mae PPV23 yn cynnwys polysacarid capsiwlaidd wedi’i buro o bob un o’r 23 o fathau capsiwlaidd cyffredin o niwmococws.

Mae Pneumovax 23 (PPV) yn frechlyn anweithredol sy’n cael ei chwistrellu mewn chwistrell wedi'i lenwi ymlaen llaw.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gan gynnwys y grwpiau cymwys, y dosau a’r dull rhoi ar gael yn Niwmococol: y llyfr gwyrdd, pennod 25 - GOV.UK.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae'r canllawiau amserlen ym mhennod 25 y llyfr gwyrdd yn disodli'r crynodeb o nodweddion cynnyrch.

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch am e.e. pneumococcal)

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Diweddariad ar cyflenwad y brechlyn Pneumovax23 2021 (CEM/CMO/2021/23)

Diweddariad ar cyflenwad y brechlyn Pneumovax23 2020 (CEM/CMO/2020/29)

Niwmococol: canllawiau, data a dadansoddiad - GOV.UK

 

 

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu .

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi .

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Niwmococol: y llyfr gwyrdd, pennod 25 - GOV.UK

Canllaw cyfeirio at yn gymflym i blaenoriaethu PPV

Y brechlyn PPV: newid i'r ffordd o'i chyflenwi o Fehefin 2021 - GOV.UK

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar y dudalen Gyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.

Mwy o adnoddau a gwybodaeth clinigol

 

Data a goruchwyliaeth