Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ofalu am eich llesiant meddyliol

Dau berson yn eistedd wrth bwrdd gyda paned

Mae llawer o ffyrdd i ofalu am eich llesiant meddyliol. Ar y dudalen hon fe welwch gyngor, awgrymiadau a dulliau defnyddiol. Beth fydd yn gweithio orau i chi?

Rydym yn byw drwy gyfnod anodd a gall y newidiadau i'n trefn arferol olygu ein bod yn gweld gwahaniaeth yn ein meddyliau, ein hwyliau neu'r ffordd rydym yn gweithredu. 

Efallai eich bod yn poeni am deulu a ffrindiau, dan straen oherwydd materion ariannol, neu'n pryderu am ddal coronafeirws.  

Efallai eich bod yn teimlo galar, ofn, dicter, cariad, balchder neu dristwch. Gall rhai o'r teimladau hyn fod yn anodd eu hesbonio neu eu henwi, a gallant fynd a dod.

Mae'n iawn i ni gael y teimladau hyn, oherwydd bod pethau'n wahanol ac yn ansicr - felly ceisiwch beidio â barnu eich hun ar sut rydych yn teimlo. 

Mae'n bwysig gofalu am eich hun, er mwyn i chi allu gofalu am eraill yn well gartref, yn y gwaith ac yn eich cymuned.

Peidio â chynhyrfu – am eich bod yn cyfri

Defnyddiwch y dull canlynol er mwyn helpu i dawelu eich meddwl a gofalu am eich teimladau, eich corff, eich meddyliau a'r hyn rydych yn ei wneud. Cliciwch ar y blychau isod i gael awgrymiadau, cyngor a gweithgareddau y gallwch eu defnyddio.

 

 

Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn

Mae Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yn eich cynorthwyo i ddeall a rheoli eich iechyd a'ch llesiant gan ddefnyddio rhestrau darllen defnyddiol.

Mae'r llyfrau yn cael eu dewis gan arbenigwyr iechyd a phobl sy'n byw gyda'r cyflyrau dan sylw. 

Mae llyfrau Darllen yn Well ar gael i'w benthyg o'ch llyfrgell leol, ac mae teitlau dethol ar gael fel e-lyfrau a llyfrau sain. Ewch i wefan eich llyfrgell leol i ymuno â'r llyfrgell am ddim.

Mae dwy restr o lyfrau ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd:

Ewch i reading-well.org.uk/wales i gael rhagor o wybodaeth.

Gwyliwch y fideo isod i glywed rhagor am effaith y cynllun gan y darlledwr Beti George a'r awdur Sharon Marie Jones:

 

Sylwch ar y pethau cadarnhaol

Gall pob un ohonom feddwl gormod am yr hyn sy'n mynd o'i le. Rydym yn mynd yn sownd ar y negyddol. 

Mae'r hyn rydym yn meddwl amdano yn cael effaith enfawr ar ein hapusrwydd a'n gallu i ymdopi, felly mae'n bwysig ymarfer sylwi ar y pethau cadarnhaol.

Mae ymchwil wedi dangos bod gwneud yr ymarfer syml canlynol yn rheolaidd yn gallu eich helpu i deimlo'n well.
 

Gwnewch Jar Llawenydd gartref

Mae cael rhywbeth i edrych ymlaen ato yn bwysig i bob un ohonom. Os oes gennym wyliau wedi'i drefnu neu barti i fynd iddo, efallai y byddwn yn teimlo'n gyffrous ac yn hapus.

Fodd bynnag, mae llawer o'r pethau rydym wedi bod yn edrych ymlaen atynt yn teimlo'n ansicr neu allan o'n cyrraedd ar hyn o bryd.

Rydym yn gweld eisiau pethau a gall hyn wneud i ni deimlo'n drist. Gall yr hyn rydych yn gweld ei eisiau fod yn wahanol i'r hyn roeddech yn credu y byddech yn gweld ei eisiau, hefyd!

Ceisiwch gofnodi'r profiadau hyn i helpu eich llesiant meddyliol.

Rwy'n ddiolchgar am...


Dros y misoedd diwethaf, roedd llawer ohonom ar garreg y drws yn clapio ar nos Iau, i ddiolch i bob math o weithwyr allweddol. Gall hyn fod yn rhan deimladwy a chalonogol o'n hwythnos.

Mae mynegi diolchgarwch yn weithred bwerus. Yn aml mae ein “os gwelwch yn dda” a'n “diolch” yn rhy gyflym. Nid ydym bob amser yn aros i sylwi ar yr hyn sydd gennym.

 

Cysylltwch â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #sutwyttii rannu eich awgrymiadau llesiant eich hun â phobl ledled Cymru.   

Cofiwch ei bod yn iawn gofyn am help os bydd ei angen arnoch, ewch i'n tudalen cymorth am ragor o wybodaeth. 

Rhagor o gyngor a syniadau ar-lein

Mind Cymru logo
Mind Cymru

Gwybodaeth ynghylch coronafeirws a'ch llesiant. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gynllunio ar gyfer aros gartref a gofalu am eich iechyd a llesiant meddyliol.

Mental Health Foundation logo
Y Sefydliad Iechyd Meddwl

Gwybodaeth am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achos o'r Coronafeirws. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar iechyd a llesiant meddyliol cyffredinol, cyflogwyr a chyflogeion, a gofalu amdanoch eich hun pan fyddwch yn aros gartref.