Mae lles meddyliol yn rhywbeth sy’n gyffredin i bawb ond gall olygu pethau gwahanol i bobl wahanol; bydd gan bob un ei farn ei hun ar yr hyn sy’n gyfystyr â bod yn iach yn feddyliol. Mae lles meddyliol yn effeithio ar sut mae pobl yn tyfu ac yn datblygu; mae'n dylanwadu ar sut maent yn ymdopi â straen cyffredin bywyd, sut maent yn gweithio, a'r ffordd maent yn cymryd rhan mewn bywyd teuluol a chymunedol. Mae lles meddyliol yn faes pwysig iechyd y cyhoedd gan ei fod yn pennu iechyd cyffredin yn ogystal â hapusrwydd. Am y rheswm hwn, mae'n bwysig ein bod yn helpu plant i ddeall a rheoli eu lles meddyliol eu hunain.