Neidio i'r prif gynnwy

Pa offer sydd ar gael i helpu?

Mae llawer o adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i fod yn egnïol a chadw'n egnïol ar yr adeg hon a llawer o sefydliadau sy'n arbenigo yn y cyflyrau iechyd mwyaf cyffredin sydd â thudalennau gwe penodedig ar gyfer cadw'n egnïol yn ddiogel. Rydym wedi darparu dolenni i wefannau sydd wedi casglu'r dulliau gorau a mwyaf diogel sydd am ddim i chi eu defnyddio.  

Mae'r adnoddau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o alluoedd a chyflyrau iechyd, felly edrychwch arnynt. Rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau. 

Efallai fod gennych rai awgrymiadau i'w rhannu ar sut rydych yn cymell eich hun i ymarfer corff, a allai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill ac os ydych yn gwybod am ddulliau eraill am ddim sydd wedi gweithio i chi. Rhowch wybod i ni a byddwn yn eu rhannu ag eraill. Byddai’n wych gallu cofnodi'r holl frwdfrydedd a chreadigrwydd sy'n cadw pobl ledled Cymru yn gorfforol egnïol a rhannu hyn â chymaint ohonoch â phosibl. 

Dyma rai pethau sydd wedi gweithio i bobl eraill:
  • Ysgrifennu cynllun y gallwch (os ydych chi eisiau) ei rannu ag eraill, gan ddweud beth rydych yn mynd i'w wneud a lle rydych yn mynd i'w wneud (e.e. gosod llwybr ar gyfer cerdded, rhedeg neu feicio, yn agos at eich cartref)
  • Amrywio pethau ychydig - meddyliwch am weithgareddau sy'n cadw eich diddordeb ac sy'n rhoi manteision aerobeg, cryfder a hyblygrwydd. Mae rhai syniadau gwych yn y dolenni isod. 
  • Paratoi ar gyfer y diwrnodau pan nad ydych yn teimlo fel ymarfer corff! Beth allai eich rhwystro rhag ymarfer corff neu olygu eich bod yn eistedd yn yr un lle yn rhy hir? A allwch ddod o hyd i ffyrdd o newid pethau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd? 
  • Sgwrsio â phobl eraill - ymrwymo i wneud rhywbeth heddiw ac yna dweud wrthynt pan fyddwch chi wedi gwneud hynny. Mae cymeradwyaeth “rithwir” yn wych hefyd pan fyddwch yn llwyddo (neu rywfaint o gefnogaeth foesol os byddwch yn methu eich targed o drwch blewyn!)
     
Dyma rai gwefannau sy'n cynnwys adnoddau a chyngor defnyddiol:

Darganfod mwy

Pam mae cadw'n egnïol yn bwysig?

Os oes gennych gyflwr iechyd, gall cadw i symud eich helpu i reoli eich cyflwr a helpu i leihau amlder a difrifoldeb y symptomau.

Sut i gadw'n gorfforol egnïol yn y cartref ac yn agos ato

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gadw'n egnïol yn ddiogel yn eich cartref ac o'i amgylch