Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n egnïol i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor

Illustration of man exercising on matt in front of television

Mae argyfwng COVID19 yn golygu ein bod yn aros i mewn yn ein cartref ac yn agos ato yn fwy nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes.  Y newyddion gwych yw bod pobl yn dod o hyd i ffyrdd o gael gwared ar effeithiau eistedd yn rhy hir dan do, boed yn bobl nad ydynt fel arfer yn meddwl am weithgarwch corfforol yn aml neu bobl sydd wedi arfer cymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff yn rheolaidd.  

Os ydych yn byw gyda chyflwr iechyd efallai fod gennych rai pryderon penodol am gadw'n egnïol:

  • Mae cadw'n egnïol os oes gennych gyflwr iechyd, yn bwysig iawn i'ch iechyd corfforol a'ch llesiant meddyliol. Rydym yn gwybod, cyn belled â'ch bod yn dilyn y canllawiau iechyd presennol ar gyfer eich cyflwr, gall gweithgarwch corfforol eich helpu i reoli eich symptomau. Cyn i chi ddechrau gweithgarwch newydd neu gynyddu dwyster y gweithgarwch, dylech siarad â'ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol sy'n eich helpu i reoli eich cyflwr.
  • Rydym yn gwybod nad yw pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd i gyd yr un peth ac maent yn profi eu salwch yn wahanol; byddwch yn wynebu eich heriau eich hun, byddwch yn cael diwrnodau da a'r diwrnodau hynny pan na allwch wneud cymaint ag arfer. Dyna pam rydym am roi sicrwydd i chi bod gwneud hyd yn oed ychydig bach o weithgarwch corfforol, ar y diwrnodau hynny pan fo hynny'n bosibl i chi, yn dod â manteision i'ch iechyd.  
  • Gall cadw'n egnïol olygu bod yn egnïol yn eich cartref a'ch gardd: gwneud tasgau yn y cartref, gweithgarwch gydag aelodau o'ch teulu neu roi cynnig ar raglen ymarfer corff strwythuredig sy'n addas i chi. Rhowch gynnig ar bethau gwahanol er mwyn dod o hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau, dechreuwch yn araf a chynyddu i weithgarwch mwy rheolaidd ar y diwrnodau pan fyddwch chi'n gallu ei wneud. 
  • Gallai cadw'n egnïol olygu defnyddio'r amser ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd y mae canllawiau'r Llywodraeth yn ei ganiatáu; i fynd am dro, mynd i redeg neu feicio, gan gofio gwneud hyn yn agos at eich cartref yn unig a phan allwch fod yn siŵr o ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Cymerwch eich amser, gwnewch yr hyn sy'n ddiogel ac o fewn eich galluoedd yn unig a pheidiwch â phoeni os na fyddwch yn cyflawni'r hyn rydych yn gobeithio amdano ar y diwrnodau nad ydych yn teimlo ar eich gorau. Manteisiwch i'r eithaf ar eich diwrnodau da ond gwrandewch ar yr hyn y mae eich corff yn ei ddweud wrthych a gwnewch yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi yn unig.
Pam mae cadw'n egnïol yn bwysig?

Os oes gennych gyflwr iechyd, gall cadw i symud eich helpu i reoli eich cyflwr a helpu i leihau amlder a difrifoldeb y symptomau.

Sut i gadw'n gorfforol egnïol yn y cartref ac yn agos ato

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gadw'n egnïol yn ddiogel yn eich cartref ac o'i amgylch

Pa offer sydd ar gael i helpu?

Mae llawer o offer ac adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i gadw i symud, gan gynnwys rhai sy'n cydnabod natur eich cyflwr iechyd yn benodol.