Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae cadw'n egnïol yn bwysig?

Yn ystod yr argyfwng COVID19, mae tarfu ar ein trefn arferol ac rydym i gyd yn chwilio am ffyrdd y gallwn ymarfer corff a chadw i symud, y tu mewn i'n cartrefi ac yn agos at ein cartrefi. 

Mae llawer o ganllawiau swyddogol ar gael (Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU 2019) a thystiolaeth ar fanteision gweithgarwch corfforol ac osgoi eistedd yn llonydd yn rhy hir. 

Mae gweithgarwch corfforol yn fwy na mynd allan o wynt - mae'n bwysig meithrin cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd hefyd. 

Mae cryfder y cyhyrau a'r esgyrn yn bwysig i'n cadw i symud ar unrhyw oedran, ond wrth i ni dyfu'n hŷn neu os ydym yn delio â chyflyrau iechyd cyffredin, mae gweithgareddau i gryfhau yn hanfodol os ydym am allu gwneud y gorau o fywyd. Gallwn ddatblygu cryfder cyhyrau drwy weithgareddau gwrthiant (codi pwysau, defnyddio bandiau gwrthiant neu offer arall i roi gwrthiant) a chryfder esgyrn drwy rai gweithgareddau gwrthdrawiad (er enghraifft rhedeg). 

Mae gweithgareddau cydbwyso yn cynnwys cadw eich cydbwysedd wrth aros yn llonydd neu wrth symud. Gall hyn fod mor syml â sefyll ar un goes neu gerdded wysg eich cefn (ar ôl gwirio bod yr ardal y tu ôl i chi yn glir wrth gwrs!).  

Y ffordd hawsaf o gael yr holl fanteision gwahanol hyn o gadw'n egnïol yw dod o hyd i weithgareddau sy'n cyfuno'r elfennau gwahanol hyn. Tra ein bod ni i gyd gartref mwy, mae'r rhain yn cynnwys sefyll i fyny o safle eistedd, dringo grisiau, Tai Chi, dawns, cerdded yn gyflym a rhai gweithgareddau chwaraeon y gallwch eu gwneud gartref. 

Rydym yn gwybod y bydd cadw i symud yn ystod sefyllfa COVID19 yn helpu ein hiechyd corfforol a'n llesiant meddyliol. Bydd cynllunio ein gweithgarwch corfforol yn ein helpu i roi rhywfaint o drefn a strwythur i'r dydd, bydd yn helpu i reoli ein lefelau straen ac yn gwella ein cwsg - a chofiwch y gall fod yn hwyl hefyd! 

Os ydych yn byw gyda chyflwr iechyd mae rhesymau eraill pam mae bod yn gorfforol egnïol yn bwysig i chi:

  • Gall bod yn egnïol eich helpu i reoli eich cyflwr a'r symptomau rydych yn eu profi, gan leihau eu heffaith a'u difrifoldeb, yn ogystal â rhoi hwb i'ch hwyliau. 
  • Gall bod yn gorfforol egnïol roi ymdeimlad o reolaeth i chi dros eich corff, cyn belled â'ch bod yn addasu'r gweithgarwch hwnnw mewn ffordd sy'n addas i chi. 
  • Gall bod yn egnïol eich cysylltu ag eraill - pobl yn eich cartref eich hun, teulu a ffrindiau drwy gyswllt fideo neu grwpiau a dosbarthiadau ar-lein. Gall cael gweithgaredd y gallwch siarad ag eraill amdano, sy'n cydnabod eich cyflwr iechyd ond heb fod yn gyfyngedig iddo, fod yn gadarnhaol iawn i'ch llesiant meddyliol 

Efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â bod yn gorfforol egnïol ac yn sylwi nad ydych, am nawr, yn gallu gwneud llawer o'r pethau rydych yn eu gwneud fel arfer. 

Rydym am eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o barhau i symud. 

A ydych yn teimlo effeithiau eistedd yn llonydd gartref yn rhy hir? Os felly, rydym wedi rhoi rhai awgrymiadau syml i chi i'ch cadw i symud a helpu i atal yr effeithiau andwyol ar eich iechyd oherwydd eistedd. 

Beth bynnag yw eich lefel gweithgarwch arferol a pha bynnag gyflwr iechyd sydd gennych, rydym yn gwybod bod pobl fel chi ledled Cymru yn ceisio cynnwys rhyw fath o weithgarwch corfforol yn eu harferion dyddiol newydd. Rydym yn gobeithio rhannu rhai o'u straeon ar y wefan hon yn yr wythnosau nesaf. Ni allwn aros i glywed mor greadigol yw pobl a sut maent yn cymell eu hunain a'u teuluoedd i symud mwy. 

Os ydych yn hunanynysu oherwydd eich cyflwr iechyd ond rydych yn iach, gallwch ymarfer corff yn ddiogel gartref neu yn yr ardd os oes gennych un, ar yr amod eich bod yn dilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. Ceir dolenni i adnoddau i'ch helpu a'ch arwain yma. 

Os ydych yn sâl neu'n cael diwrnod gwael o ran eich cyflwr, cadwch eich egni er mwyn gwella. Os ydych wedi gwella o salwch yn ddiweddar (boed hynny'n COVID19 neu unrhyw salwch arall), cymerwch eich amser i ddod yn gorfforol egnïol eto, gan gynyddu'n raddol at eich lefelau gweithgarwch arferol cyn rhoi cynnig ar unrhyw beth ychwanegol neu newydd. 

Darganfod mwy

Sut i gadw'n gorfforol egnïol yn y cartref ac yn agos ato

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gadw'n egnïol yn ddiogel yn eich cartref ac o'i amgylch

Pa offer sydd ar gael i helpu?

Mae llawer o offer ac adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i gadw i symud, gan gynnwys rhai sy'n cydnabod natur eich cyflwr iechyd yn benodol.