Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gadw'n gorfforol egnïol yn y cartref ac yn agos ato

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod mor bwysig yw ymarfer corff bob dydd, gan ei gynnwys fel un o'r ychydig resymau y gallwn adael ein cartrefi, i sicrhau ein hiechyd corfforol a meddyliol. 

Mae pobl ledled Cymru yn dod o hyd i bob math o ffyrdd o gadw'n egnïol. Gall hyn fod drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein a rhaglenni sy'n cael eu hybu gan bobl enwog, neu gall fod drwy gerdded neu arddio yn yr heulwen. Beth bynnag rydych yn dewis ei wneud, cofiwch fod cadw'n egnïol nid dim ond yn golygu ymarfer corff sy'n eich cael allan o wynt, ond symud sy'n helpu i feithrin eich cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd. Mae'n bosibl cael yr holl fanteision iechyd corfforol hyn, yn ogystal â'r effeithiau cadarnhaol ar eich hwyliau a boddhad personol, gartref ac os oes gennych gyflwr iechyd. Mae gan lawer o sefydliadau sy'n arbenigo mewn cyflyrau iechyd penodol wybodaeth ac adnoddau ar eu gwefannau sy'n dangos i chi sut i wneud hynny, ble bynnag rydych chi'n cychwyn arni.


Diogelu eich Hun - Diogelu'r GIG

Peidiwch â gorwneud pethau - mae newidiadau bach yn ddefnyddiol, gan gynyddu eich lefelau gweithgarwch yn raddol os ydych yn rhoi cynnig ar bethau newydd neu os nad ydych wedi gwneud rhaglen ymarfer corff ers peth amser. Mae'n well dechrau'n araf a chynyddu eich gweithgarwch corfforol yn hytrach na gwthio eich hun yn rhy galed a digalonni o'r cychwyn. Cofiwch eich bod bob amser yn ymgynghori â'ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol i sicrhau eich bod yn ystyried heriau penodol eich cyflwr. 


Cadw'n Egnïol Gartref

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich diwrnod, i ymarfer corff a symud yn amlach gartref. Gosodwch larwm ar eich ffôn i dorri ar eich amser yn eistedd yn llonydd, neu ymrwymwch i godi a symud o gwmpas yn ystod unrhyw hysbysebion pan fyddwch yn gwylio'r teledu. Mae'n hawdd ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eich gweithgareddau bob dydd a defnyddio pethau o amgylch y tŷ i'ch helpu; o ymarferion ymestyn ysgafn yn eich cadair freichiau i ddringo'r grisiau i ddefnyddio tuniau o ffa fel pwysau. Mae ychydig bach o weithgarwch, gan dorri ar draws yr amser pan fyddwch yn eistedd yn llonydd, i gyd yn cyfrif ac yn eich helpu i gadw'n iach gartref. 

Mae llawer o adnoddau ar-lein am ddim y gallwn eu rhannu â chi, sy'n addas ar gyfer phobl â chyflyrau iechyd a fydd yn eich helpu i ymarfer corff gartref. Cofiwch ddod o hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau, a byddwch yn dal ati. Mae gweithgareddau bach i gyd yn cyfrif a gallwch gynyddu'n araf. Manteisiwch i'r eithaf ar eich diwrnodau da, ond byddwch yn garedig i chi eich hun pan nad ydych yn teimlo y gallwch wneud yr hyn yr oeddech yn bwriadu ei wneud. Mae anawsterau'n gyffredin. 

Beth am drefnu sgwrs ddyddiol ag unrhyw un rydych yn ei adnabod sy'n ceisio ymarfer corff fel chi? Beth am ffrind neu aelodau o glybiau a grwpiau rydych fel arfer yn mynd iddyn nhw? Os nad yw hynny'n addas i chi, bydd llawer o adnoddau yn eich galluogi i gymharu eich cynnydd â phobl eraill ar-lein, neu efallai y byddwch am sgwrsio â theulu a ffrindiau a rhannu cynnydd eich gilydd. 
 

Cadw'n Egnïol yn yr Awyr Agored, yn agos at eich Cartref

Os ydych yn gallu gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd, yn unol â'r rheolau cadw pellter cymdeithasol, bydd hyn yn fanteisiol iawn i'ch iechyd corfforol a'ch llesiant meddyliol.  

Efallai y byddwch am fynd i gerdded, i redeg neu feicio yn agos at eich cartref. Mae manteision iechyd y gweithgareddau fforddiadwy a hygyrch hyn yn glir. Os ydych yn newydd i redeg, beicio neu hyd yn oed gerdded ar gyfer iechyd, ceir adnoddau a dolenni ar y wefan hon i'ch helpu i ddechrau arni'n ddiogel, gan sicrhau eich bod yn datblygu'n raddol ac yn osgoi syrthio ar y rhwystr cyntaf. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am wefannau sefydliadau sy'n rhoi cyngor ar redeg, beicio a cherdded er iechyd a rhoi cymorth ar gyfer y cyflyrau iechyd mwyaf cyffredin.  Edrychwch ar ein rhestr o adnoddau defnyddiol yma.

Darganfod mwy