Mae ein hymennydd yn dda iawn am boeni, yn enwedig pan fydd pethau'n wahanol neu'n ansicr. Gall fod yn hawdd mynd i rigol a meddwl yn negyddol. Gallwch reoli eich meddwl a gall hyn wella eich llesiant.
Gallech roi cynnig ar:
- Osgoi sïon a gwrando ar ffynonellau o wybodaeth y gallwch ymddiried ynddynt, fel newyddion y BBC.
- Ceisiwch gyfyngu ar faint o amser rydych yn gwylio'r newyddion neu'n gwrando arno.
- Canolbwyntio ar y presennol, ac ar beth y gallwch eu gwneud - gall fod yn hawdd pryderu am bethau y tu hwnt i'n rheolaeth. Beth am roi cynnig ar y wefan adeiladu llesiant a chydnerthedd am syniadau?
- Gwnewch rywbeth i dynnu eich meddwl oddi ar bethau, rhywbeth rydych yn dda yn ei wneud neu'n ei fwynhau.