Neidio i'r prif gynnwy

MAE BYWYDAU DU O BWYS

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld llif o gefnogaeth ledled y byd ar gyfer y mudiad #Maebywydauduobwys. A hynny'n briodol. Mae etifeddiaeth hiliaeth systemig a sefydliadol yn parhau i effeithio ar bobl yng Nghymru heddiw.

Rydym yn cydnabod bod hwn yn fater sy'n effeithio nid yn unig ar ein haelodau o staff a gweithwyr y GIG ledled Cymru, ond hefyd ar ein defnyddwyr gwasanaethau y mae eu dibyniaeth arnom wedi cynyddu ar yr adeg fwyaf heriol hon.

Meddai Shamala Govindasamy, Arweinydd Rhwydwaith BAME ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae pobl BAME yn parhau i frwydro bob dydd yn erbyn hiliaeth, ac iacháu o'r effeithiau y mae wedi'u cael ar eu bywydau. Gall cynghreiriaid mawr eu cefnogi, a helpu i ddatgymalu'r ffyrdd y mae ein sefydliadau a'n diwylliant wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn gormes. Nid yw bod yn gynghreiriad o reidrwydd yn golygu eich bod yn deall yn llawn sut deimlad yw dioddef gormes – mae’n golygu eich bod yn mabwysiadu'r frwydr fel eich un chi.”

Meddai Huw George, cynghreiriad BAME Gweithredol: “Mae bob amser wedi bod yn bwysig cymryd safiad gyda'n ffrindiau, ein teulu a'n cydweithwyr BAME, a sefyll wrth eu hochr yn y frwydr yn erbyn hiliaeth ac anghydraddoldeb. Ac mae mor bwysig nawr ag y bu erioed—yn enwedig yn sgil y pandemig—i ddod o hyd i ffyrdd diogel ac adeiladol o wneud hyn.

 “Fel sefydliad rydym yn cefnogi amrywiaeth, cynhwysiant a sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt, ac yn gallu bod yn nhw eu hunain heb ofni gwahaniaethu. Ac er ein bod wedi gwneud ymrwymiadau clir drwy ein Strategaeth Gydraddoldeb, mae gennym waith i'w wneud o hyd i wireddu ein dyheadau. “
 

Cyngor ar gyfer cynulliadau torfol

Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn gryf, y cyngor iechyd cyhoeddus yw y dylai pobl gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ac osgoi cynulliadau torfol o unrhyw fath.

Rydym yn gwybod bod grwpiau BAME yn wynebu mwy o risg o'r coronafeirws, sy'n cael effaith anghymesur ar gymunedau BAME.  Byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori pobl i gefnogi mudiad Mae Bywydau Du o Bwys drwy brotestiadau ar-lein, deisebau, neu drwy ymuno â sefydliadau ar-lein.
 

Rhagor ar ein hymrwymiad i gydraddoldeb.

I wella'r profiad ar gyfer staff a defnyddwyr gwasanaethau; ac i hyrwyddo a sefydlu cydraddoldeb hiliol a thegwch yn ein gwaith, rydym wedi rhoi arweiniad clir o ran sut rydym yn gobeithio cyflawni hyn fel rhan o'n nod strategol.

 

 

Gallwch weld yr adroddiad llawn yma:

 

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n rhwydwaith BAME a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2019 gyda'r nod o wella profiadau staff yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y rhai o grwpiau ethnig amrywiol nad ydynt yn wyn neu grwpiau crefyddol lleiafrifol. Mae'r rhwydwaith yn ceisio cyfarfod yn chwarterol gan roi cyfle i staff gyfarfod, siarad yn anffurfiol a chodi unrhyw faterion, gyda'r cyfle i sicrhau newid cadarnhaol, sefydliadol. Maent hefyd yn gweithio gyda'n harweinydd cydraddoldeb Sarah Morgan i fonitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'n hamcanion cydraddoldeb a sicrhau ein bod yn gweithio gyda'r partneriaid cywir i'w cyflawni.

Meddai Sarah Morgan, rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino i hybu ein hymdrechion wrth gefnogi aelodau o staff BAME a gwella mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl BAME ledled Cymru.’

‘Rydym yn gwneud cynnydd aruthrol mewn meysydd fel gwasanaethau iechyd meddwl, gwell cymhwysedd diwylliannol a hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff, cydweithio â phartneriaid fel Diverse Cymru i ddatblygu pecynnau cymorth cynhwysiant a mynd i'r afael ag amrywiaeth ein staff ar bob lefel’

‘Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd ac yn enwedig yn ystod y cyfnod anoddaf yma gyda'r pwysau deuol yn sgil COVID-19 a'r sylw dwys i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y newyddion;  rydym yn gweithio'n agosach nag erioed o'r blaen gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu cael gafael ar y wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnynt.”
 

Adnoddau Pellach

Rydym wedi coladu nifer o adnoddau o'n gwaith ein hunain, partneriaid sy'n cydweithio a sefydliadau eraill sy'n rhoi cymorth ac arweiniad i'r rhai o grwpiau pobl dduon ac Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig a'r rhai sy'n awyddus i fod yn gynghreiriaid gwell.
 

Partneriaid a Sefydliadau

Diverse Cymru

Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig

Cyngor Hil Cymru

Cynghrair Hil Cymru

Cyngor Mwslimiaid Cymru

Mae Bywydau Du o Bwys

Charity So White

 

Ein Hadnoddau Cymorth

Bod yn un o gynghreiriad BAME

Adnoddau Gwrth-hiliaeth

Cymorth Llesiant Meddyliol