Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin am COVID-19

Atebodd eich cwestiynau.
 
1. Rwyf wedi cael fy sgrinio, ond nid wyf wedi derbyn fy nghanlyniad eto. A fydd fy nghanlyniad sgrinio yn cael ei oedi?
Byddwn yn ceisio ein gorau glas i barhau i adolygu’r mammogramau sydd wedi’u cymryd ac yn gyrru canlyniad.
 
2. Rwy’n disgwyl fy asesiad sgrinio ar y fron, ac rydw i’n poeni nawr ei fod yn cael ei ganslo
Fel y mae, byddwn yn parhau i wahodd menywod i glinigau asesu. Bydd hyn yn dibynnu ar ein lefelau staffio a lefelau ein cydweithwyr yn y byrddau iechyd. Gellir adolygu’r sefyllfa yn unol a canllawiau’r Llywodreath pe bai sefyllfa COVID-19 yn newid.
 
Os oes gennych symptomau Coronafirws Nofel (COVID-19) neu os ydych chi’n hunan-ynysu, yna ffoniwch ganolfan sgrinio’r fron i drefnu apwyntiad arall.
Mae rhagofalon wedi’u rhoi yn y ganolfan ar gyfer y rhai sy’n mynychu clinig asesu, mae glanweithyddion a masgiau ar gael yn y dderbynfa. Gofynnir i ferched beidio â dod â chydymaith gyda nhw i’w hapwyntiad
3. Mae fy apwyntiad wedi’i ganslo a fyddaf yn cael llythyr apwyntiad arall pan fydd y sgrinio’n dechrau eto?
Mae ein cofnodion yn dangos pa apwyntiadau sydd wedi’u canslo. Pan fyddwn yn gallu dechrau gwahodd pobl i sgrinio’r fron eto, byddwn yn anfon llythyrau gwahoddiad newydd.
4. Rwyf dros 70 oed a chysylltais am apwyntiad, a oes angen I mi gysylltu a chi eto pan fyddwch yn ail gychwyn sgrinio?
Na, os ydym wedi cymeryd eich manylion i anfon apwyntiad atoch, byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch pan ddechreuwn sgrinio eto.
5. Disgwylir imi gael fy sgrinio fis nesaf, a fydd fy apwyntiad yn cael ei ohurio?
Bydd apwyntiadau sgrinio yn y dyfodol yn hwyrach na’r disgwyl, ond byddwn yn anelu at ddechrau gwahodd pobl i sgrinio’r fron cyn gynted ag y gallwn.
6. Ni Fynychais fy sgrinio diwethaf, ond yn awr hoffwn gael fy sgrinio. A allaf wneud apwyntiad?
Cysylltwch â ni pan fyddwn yn dechrau sgrinio eto a byddwn yn hapus i gynnig apwyntiad i chi os ydych yn ddyledus.
7. Rwy’n cael rhai symptomau, beth ddylwn i ei wneud?
Dylech gysylltu â’ch meddyg teulu heb oedi os oes gennych unrhyw o’r symptomau canlynol:
•    lwmp yn eich bron, gyda neu heb boen, nad yw’n cael ei achosi gan unrhyw beth arall
•    newid i deth, fel arllwysiad neu deth sy’n ymddangos fel pe bai’n cael ei dynni i mewn nad yw’n cael ei achosi gan unrhyw beth arall
•    newid yn sut mae’r fron yn teimlo neu‘n edrych. Efallai y bydd yn teimlo’n drwm, yn gynnes neu’n anwastad, neu gall y croen edrych yn dimpled. Gall maint a siap y fron newid
•    Poen neu anghysur yn y fron neu’r gesail nad yw’n cael ei achosi gan unrhyw beth arall
 
Dilynwch a dolenni isod i’n Taflen Gofalu Am Eich Bronnau:
 
http://www.breasttestwales.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1025/BTW_BBA_5COL_WELSH_AW_web.pdf
http://www.breasttestwales.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1025/BTW_BBA_5COL_ENG_AW_web.pdf
 
Bydd sgrinio yn cael ei adfer cyn gynted â sydd phosibl