Mae sgrinio’r fron yn golygu chwilio am ganser y fron cyn i symptomau ddod i’r amlwg. Mae’n golygu tynnu mamogramau, sef pelydrau-X o’r fron. Byddwn ni’n tynnu dau famogram o leiaf o’r naill fron a’r llall.