Neidio i'r prif gynnwy

Ymlediad Aortig Abdomenol Bach a Chanolig

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth i ddynion sydd ag ymlediad aortig abdomenol bach neu ganolig (YAA) a ganfuwyd drwy sgrinio YAA 


Cyhoeddwyd Ionawr 2021
 

Cynnwys

 

 

Canlyniad eich prawf sgrinio

Fe welon ni fod rhan o'r aorta yn eich abdomen ychydig yn lletach na'r disgwyl.  Mae hyn yn golygu bod YAA gennych chi.  Dim ond monitro'r ymlediad y mae angen ei wneud ar hyn o bryd.

Mae tua dau o bob 100 o ddynion (2%) sy'n mynd i gael prawf sgrinio'n cael gwybod bod YAA bach neu ganolig ei faint ganddyn nhw.

 

Beth yw ymlediad aortig abdomenol?

Yr aorta yw'r brif bibell waed sy'n cludo gwaed o amgylch y corff. Weithiau mae wal yr aorta yn yr abdomen yn gallu troi'n wan ac ymestyn i ffurfio ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd, mae risg y gallai'r aorta hollti neu rwygo, sy'n cael ei alw'n rhwyg. Po fwyaf yw'r ymlediad, po fwyaf yw'r perygl y gallai rwygo.

Bach
3cm - 4.4cm
 
Canolig
4.5cm - 5.4cm
 
Mawr
5.5cm neu'n fwy

 

A yw fy YAA yn gyflwr difrifol?

Anaml iawn y mae YAA bach yn gyflwr difrifol. Mae'r mwyafrif o ymlediadau'n tyfu'n araf iawn, felly efallai na fydd ymlediadau bach Ilawer o ddynion byth yn tyfu'n ymlediadau canolig neu fawr eu maint.

Fe allai YAA canolig ei faint droi'n gyflwr difrifol os bydd yn parhau i dyfu. Mae'r mwyafrif o ymlediadau'n tyfu'n araf lawn, felly efallai na fydd ymlediadau canolig eu maint rhai dynion byth yn tyfu'n ymlediadau mawr.

Er hynny, mae'n bwysig bod maint eich YAA yn cael ei fonitro'n rheolaidd, rhag ofn iddo dyfu'n fwy.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd nyrs sy'n arbenigo ar YAA yn cysylltu â chi yn ystod y pum diwrnod ar ôl dyddiad eich sgan. Byddwch yn cael cyfle i drafod eich canlyniad yn fwy manwl gyda'r nyrs, a bydd y nyrs yn rhoi cyngor i chi ar eich iechyd cyffredinol ac ar y ffordd y gallai cyflyrau eraill effeithio ar eich YAA. Bydd y nyrs yn cynghori y dylech chi drefnu apwyntiad i fynd at eich meddyg teulu i wirio lefel pwysedd eich gwaed ac i drafod iechyd a ffyrdd iach o fyw.

Nid oes angen unrhyw driniaeth arnoch chi ar hyn o bryd. Ar sail maint eich YAA byddwn yn eich gwahodd yn ôl i gael sgan monitro:

  • bob blwyddyn os yw'ch YAA yn un bach; neu bob
  • tri mis os yw'ch YAA yn un canolig ei faint.

Byddwn yn anfon Ilythyr atoch i roi dyddiad eich apwyntiad nesaf. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad yn y cyfamser, rhowch wybod cyn gynted â phosibl i staff y swyddfa sgrinio yn eich ardal.

 

Beth fydd yn digwydd yn ystod y sgan monitro?

Bydd y sgan monitro'n dilyn yr un drefn â'r sgan cyntaf a gawsoch chi. Bydd y staff yn rhoi canlyniad eich sgan i chi yn ystod yr apwyntiad. Byddwn yn anfon y canlyniad hefyd i'ch meddyg teulu neu i un o weithwyr proffesiynol eraill y gwasanaeth iechyd sy'n gofalu amdanoch chi.

Rydym yn gwirio ansawdd a chywirdeb ein sganiau monitro. Os bydd mesuriadau eich sgan yn peri unrhyw bryder, efallai byddwn yn eich gwahodd yn ôl i gael sgan arall am YAA.

 

Pa mor aml fydd rhaid i mi ddod yn ôl?

YAA bach ei faint - Byddwn yn cynnig sgan i chi unwaith y flwyddyn. Os bydd eich ymlediad yn dal yn fach mewn 15 mlynedd, ni fydd angen i chi gael rhagor o sganiau. Mae'n annhebygol lawn y bydd eich YAA yn achosi unrhyw broblemau.

YAA canolig ei faint - Byddwn yn dal i fonitro eich ymlediad aortig abdomenol bob tri mis. Os bydd eich ymlediad yn tyfu'n ymlediad mawr, byddwn yn eich cyfeirio at y tim arbenigol yn yr ysbyty. Byddwch chi'n cael cyngor gan y tîm, a chyfle i drafod eich opsiynau ar gyfer rheoli eich YAA.

Os bydd eich YAA bach neu ganolig ei faint yn tyfu'n un mawr, mae'r risg o'i weld yn rhwygo'n gallu bod yn fwy na'r risg wrth gael Ilawdriniaeth. Yn yr achos hwnnw byddai'n werth ystyried gwneud Ilawdriniaeth.

 

Beth fydd yn digwydd os bydd fy ymlediad yn mynd yn fwy?

Os bydd eich YAA bach ei faint yn tyfu'n ymlediad canolig ei faint, bydd rhaid i chi ddod i gael sgan uwchsain unwaith bob tri mis. Os bydd maint eich YAA yn cynyddu o 1 cm neu fwy mewn blwyddyn, byddwn yn eich cyfeirio at y tîm arbenigol yn yr ysbyty. Byddwch chi'n cael cyngor gan y tîm, a chyfle i drafod eich opsiynau ar gyfer rheoli eich ymlediad aortig abdomenol.

Os bydd eich YAA canolig ei faint yn tyfu'n ymlediad mawr, byddwn yn eich cyfeirio at y tîm arbenigol yn yr ysbyty. Byddwch chi'n cael cyngor gan y tîm, a chyfle i drafod eich opsiynau ar gyfer rheoli eich YAA.

 

Beth fydd yn digwydd os bydd fy ymlediad yn Ileihau?

Mae'n annhebygol y bydd maint eich ymlediad yn Ileihau. Os bydd hyn yn digwydd a bod newid yn y mesuriad, byddwch chi'n cael cyfle i drafod y sefyllfa gyda ni.

 

Pam nad yw'n bosibl i mi gael Ilawdriniaeth nawr?

Mae elfen o risg yn gysylltiedig â phob Ilawdriniaeth ac nid yw'r Ilawdriniaeth at YAA yn wahanol. Mae Ilawer mwy o risg wrth gael Ilawdriniaeth at YAA bach neu ganolig ei faint na'r risg sy'n codi yn sgil yr ymlediad ei hun. Y ffordd orau o reoli eich YAA bach neu ganolig yw dewis ffyrdd iachach o fyw a dilyn cyngor eich meddyg teulu.

 

Allaf i wneud unrhyw beth i stopio fy YAA rhag mynd yn fwy?

Mae rhestr yn dilyn o rai o'r pethau y gallwch eu gwneud a allai arafu tyfiant eich YAA.

  • Os ydych chi'n smygu, stopiwch. Ffoniwch ymgyrch Helpa Fi I Stopio ar 0800 085 2219 i ofyn a help a chefnogaeth.

  • Gwnewch yn siŵr bod lefel eich pwysedd gwaed yn normal. Os nad oes meddyg neu nyrs wedi gwirio'r lefel yn ddiweddar, ewch at eich meddyg teulu i gael gwirio'r pwysedd.

Mae rhestr yn dilyn o rai pethau eraill sydd hefyd yn gallu gwella eich iechyd cyffredinol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta diet iach a chytbwys.
  • Os ydych yn pwyso gormod, gwnewch eich gorau i golli pwysau.
  • Ewch ati'n rheolaidd i wneud ymarfer corff.
  • Os ydych yn yfed alcohol, torrwch i lawr ar nifer y diodydd.

Gallwch chi gael cyngor ar bob un o'r pethau yma ym meddygfa eich meddyg teulu.

Nid oes angen i chi newid eich ffordd o fyw mewn unrhyw ffordd arall. Dylech barhau i wneud pethau corfforol egniol, a dal ati i fwynhau unrhyw hobiau sydd gennych. Cysylltwch a'ch meddyg teulu os byddwch yn poeni am unrhyw beth.

Os byddwch yn newid eich cyfeiriad yn y cyfamser, dylech roi gwybod cyn gynted â phosibl i staff y swyddfa sgrinio yn eich ardal.

 

Beth am yr aelodau agos o fy nheulu?

Mae'r risg o gael YAA yn uwch os oes YAA ar eich brawd, eich chwaer neu un o'ch rhieni, neu os oes un o'r aelodau yma o'ch teulu wedi cael ymlediad yn y gorffennol.

Dywedwch wrth unrhyw frodyr, chwiorydd neu blant sydd gennych fod eich YAA yn golygu eu bod nhw hefyd dan risg. Dylen nhw fynd at eu meddyg teulu i ofyn am gyngor.

 

Beth am yrru?

Y DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau) sy'n gyfrifol am benderfynu a oes hawl gan rywun i yrru ar sail ei iechyd neu unrhyw gyflyrau sydd ganddo. Os ydych chi'n gweithio fel gyrrwr bysiau o unrhyw faint neu loriau, rhaid i chi ddweud wrth y DVLA fod YAA gennych, waeth beth yw ei faint. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf o wefan GOV.UK

 

Beth am yswiriant ym maes iechyd?

Os byddwch yn dweud wrth y cwmni yswiriant am eich YAA ar yr adeg byddwch yn gwneud cais am yswiriant teithio neu unrhyw yswiriant iechyd, efallai bydd rhaid i chi dalu mwy neu ofyn am gael eithrio'r cyflwr o'ch polisi. Pan fyddwch chi'n chwilio am yswiriant, bydd brocer yn gallu helpu. Mae gwasanaeth chwilio am frocer ar wefan BIBA (British Insurance Brokers Association). Ewch i'r gwefan neu ffoniwch y gymdeithas ar y rhif 0370 950 1790.

 

Mae'n annhebygol iawn y byddai YAA bach neu ganolig ei faint yn rhwygo. Ond mae'n bwysig eich bod yn gwybod am symptomau YAA sydd wedi rhwygo. Os ydych wedi cael diagnosis o YAA ac mae gennych symptomau newydd, sef poen ddifrifol a chyson yn eich abdomen neu yn rhan isaf eich cefn (neu yn y ddau le), dylech fynd ar unwaith at uned ddamweiniau ac achosion brys ysbyty. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth unrhyw staff meddygol fod YAA gennych sydd wedi dod i'r amlwg ar ôl cael prawf sgrinio.

 

Sut mae cael mwy o wybodaeth?

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw ran o'r daflen yma:

 

Gallwch gael gwybodaeth a chymorth hefyd drwy'r elusen Circulation Foundation. Elusen Brydeinig yw hon i bobl â chlefydon y gwythiennau a'r rhydwelIau, sy'n cael eu galw'n glefydon fasgwlar ac sy'n cynnwys YAA.