Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy mhrawf sgrinio serfigol yn dweud bod gennyf HPV. Rwyf wedi bod yn briod ers blynyddoedd lawer - sut y gallaf gael HPV? Rwy'n ddryslyd ac yn bryderus.

Gall HPV orwedd yn segur (yn cysgu) yn ein cyrff am flynyddoedd lawer ac efallai na fydd byth yn achosi unrhyw newidiadau celloedd. Os yw'n cael ei ganfod ar brawf sgrinio serfigol, ni allwn ddweud am ba hyd y bu yno. Efallai na fydd rhai pobl byth yn cael gwared arno.

Gwyddom y gall canfod yn sydyn bod gennych HPV yn awr achosi i rai pobl boeni am eu partneriaid. Mae'n bwysig gwybod y gall y feirws aros am flynyddoedd lawer heb achosi unrhyw broblemau i'r naill bartner na'r llall.

 Efallai y bydd y feirws yn achosi newidiadau celloedd flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Dyma pam mae'n bwysig parhau i gael eich sgrinio pan fyddwch yn cael eich gwahodd, hyd yn oed os yw eich profion wedi bod yn normal erioed.