Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy mhrawf sgrinio serfigol yn dangos bod gennyf HPV. A oes angen i fy ngŵr/partner gael ei brofi?

Na, nid oes angen i'ch gŵr/partner gael ei brofi. Mae HPV yn gyffredin iawn, ac nid ydym yn gwybod am ba hyd y gallech fod wedi'i gael. Mae hefyd yn debygol bod eich partner wedi cael HPV, ac efallai ei fod ganddo o hyd, neu efallai fod ei gorff wedi delio ag ef.

 Fel arfer, nid yw'n achosi unrhyw symptomau ac nid ydym yn profi amdano mewn dynion. Os ydych mewn perthynas o'r un rhyw, yna byddem bob amser yn cynghori bod eich partner/gwraig yn mynd i gael prawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) pan fydd angen iddynt ei gael.