Oherwydd pandemig coronafeirws, cafodd rhai o'n gwasanaethau sgrinio eu hoedi. Mae pob un o'r rhaglenni yng Nghymru bellach wedi dechrau gwahodd pobl eto.
Gallwch deithio y tu allan i’ch ardal i fynychu eich apwyntiad sgrinio, gan gynnwys yn ystod adegau cyfyngiadau, gan fod hwn yn apwyntiad meddygol sy’n cyfrif fel ‘esgus rhesymol’ i deithio.
Mae bod yn rhan o raglen sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu am eich iechyd.
Rydym yn deall y gallech fod yn poeni os ydych wedi methu'ch apwyntiad, os ydych i fod i fynychu apwyntiad sgrinio neu os yw'ch gwahoddiad sgrinio wedi'i oedi. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed iawn i ddal i fyny.
Rydym wedi cyflwyno mesurau i'ch cadw chi a'n staff yn ddiogel pan fyddwch chi'n mynychu eich apwyntiad sgrinio. Gall y mesurau hyn gynnwys:
Hoffem eich sicrhau na fydd unrhyw newid i'r prawf sgrinio ei hun.
Cofiwch, i atal lledaeniad coronafeirws, peidiwch â mynychu apwyntiad sgrinio os oes gennych symptomau coronafeirws, os ydych wedi profi'n bositif, neu os ydych wedi cael eich cynghori i osod eich hun dan gwarantin neu hunanynysu.
Mae symptomau coronafeirws yn un neu fwy o'r canlynol:
I ddysgu rhagor am symptomau coronafeirws, ewch i: https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl
Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn mynychu'ch apwyntiad, am ba bynnag reswm. Efallai y byddwn yn gallu cynnig eich apwyntiad i rywun arall.
Rhagor o wybodaeth am sgrinio yn ystod pandemig coronafeirws
Cadwch lygad am eich gwahoddiad. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn ansicr a ddylech ddod i’ch apwyntiad sgrinio, gallwch ffonio'r rhif ar eich llythyr.
I ddysgu rhagor am sgrinio a'r rhaglenni unigol, ewch i'n gwefan
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/.
Os ydych chi'n poeni am unrhyw newidiadau yn eich iechyd, peidiwch ag aros i gael eich gwahodd i apwyntiad sgrinio. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n siarad â rhywun yn eich practis meddyg teulu, hyd yn oed os ydych chi wedi cael canlyniad prawf sgrinio normal yn flaenorol.