Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2a - Eich grŵp gwaed a beichiogrwydd

Os cawsoch chi eich apwyntiad cynenedigol gyda’ch Bydwraig gymunedol ar neu ar ôl 13 Mai 2024, mae’r wybodaeth hon i chi.

 

Mae’r adran hon yn esbonio’r profion y gellir eu cynnal yn ystod beichiogrwydd er mwyn:

  • canfod eich grŵp gwaed ABO
  • canfod eich grŵp D (a elwir weithiau’n grŵp RhD/Rhesws D), a
  • chwilio am wrthgyrff.

Mae angen i’r bobl sy’n gofalu amdanoch yn ystod beichiogrwydd wybod eich grŵp gwaed (math o waed) rhag ofn y bydd angen trallwysiad gwaed arnoch. Mae’r prawf sgrinio ar gyfer grŵp gwaed a gwrthgyrff celloedd coch yn gywir iawn. Weithiau bydd angen profion gwaed ychwanegol arnoch os canfyddir gwrthgyrff.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Y prawf

Gellir gwneud y prawf hwn gyda phrofion gwaed eraill, fel arfer yn gynnar yn ystod beichiogrwydd. Mae’n cael ei gynnig i chi eto o amgylch 28ain wythnos o feichiogrwydd.
Beth fydd eich canlyniad prawf grŵp gwaed yn ei ddweud wrthych
Bydd eich grŵp gwaed yn un o’r pedwar prif grŵp canlynol.

  • Grŵp O
  • Grŵp A
  • Grŵp B
  • Grŵp AB

Yn eich grŵp gwaed, byddwch naill ai’n D positif neu’n D negatif. Er enghraifft, efallai y bydd eich grŵp gwaed cyffredinol yn cael ei ysgrifennu fel ‘O RhD positif’.

 

Ynglŷn â’ch gwaed

Mae eich gwaed yn cynnwys:


• celloedd coch y gwaed
• celloedd gwyn y gwaed, a
• phlatennau.

Mae’r rhain i’w canfod mewn hylif o’r enw plasma. Mae eich grŵp gwaed yn cael ei adnabod gan antigenau a gwrthgyrff wedi’u cynnwys yn eich gwaed.
 
  • Mae antigenau yn foleciwlau protein a geir ar wyneb celloedd cochy gwaed.
  • Mae gwrthgyrff yn broteinau a geir yn rhan hylif y gwaed o’r enw plasma. Mae gwrthgyrff yn rhan o amddiffyniad naturiol eich corff.
Weithiau mae gan gelloedd coch y gwaed antigen arall o’r enw antigen D.
  • Os yw hwn yn bresennol, gelwir eich grŵp gwaed yn D positif.
  • Os nad yw’n bresennol yn eich gwaed, gelwir eich grŵp gwaed yn D negatif.
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl, 85% (85 allan o 100) yn D positif.
 

Beth yw gwrthgyrff celloedd coch?

Mae gwrthgyrff celloedd coch yn rhan o amddiffyniad naturiol eich corff ac maent yn ymladd yn erbyn unrhyw beth y mae’r corff yn credu sy’n estron. Efallai y byddwch yn ffurfio gwrthgyrff os bydd celloedd coch sydd â grŵp gwaed sy’n wahanol i’ch un chi, yn mynd i mewn i’ch llif gwaed. Gall hyn ddigwydd oherwydd trallwysiad gwaed neu oddi wrth eich babi yn ystod beichiogrwydd.

Gall gwrthgyrff celloedd coch drosglwyddo o’ch llif gwaed i waed eich babi, lle gall gwrthgyrff gwrth-D ddatblygu. Weithiau mae hyn yn gallu achosi cyflwr prin o’r enw clefyd haemolytig y ffetws a’r babi newydd-anedig (HDFN), gan wneud eich babi’n sâl. Fel arfer, mae angen i fabanod sydd â’r cyflwr prin hwn gael eu derbyn i’r ysbyty.


Beth os ydych yn D negatif?

  • Os yw eich grŵp gwaed yn D negatif a grŵp gwaed eich babi yn D positif efallai y byddwch yn datblygu gwrthgyrff gwrth-D (os ydych
    yn D positif, nid yw’r broblem hon fel arfer yn digwydd).
  • Os ydych yn D negatif, byddwch yn cael cynnig prawf gwaed o amgylch 16eg wythnos o feichiogrwydd. Gelwir y prawf hwn yn brawf DNA di-gell y ffetws (cffDNA) a bydd yn dweud wrthych a yw’ch babi yn D negatif neu’n D positif.

 

Beth yw prawf DNA di-gell y ffetws (cffDNA)?

Os ydych yn D negatif, gall y prawf DNA di-gell y ffetws ragweld:

  • a yw eich babi yn D negatif (yr un grŵp gwaed â chi), neu’n
  • D positif.

Bydd y prawf hwn yn edrych ar symiau bach o DNA eich babi yn eich gwaed. DNA yw’r wybodaeth genetig y tu mewn i gelloedd y corff. Os ydych yn D negatif a bod eich babi’n D positif byddwch yn cael cynnig pigiadau imiwnoglobwlin gwrth-D. Cyfeirir at hyn fel gwrth-D yn y wybodaeth hon. Bydd hyn yn lleihau HDFN rhag datblygu yn sylweddol.

 

Beth yw pigiadau gwrth-D?

Bydd gwrth-D yn helpu i atal gwrthgyrff rhag cael eu creu os yw gwaed eich babi wedi mynd i mewn i’ch llif gwaed, ac felly bydd yn lleihau’r siawns o glefyd haemolytig y babi newydd-anedig. Mae pigiadau gwrth-D wedi’u gwneud o blasma, sef rhan hylif y gwaed sy’n cludo ocsigen a chelloedd coch o amgylch eich corff. Mae’r plasma a ddefnyddir i wneud gwrth-D yn cael ei gasglu gan roddwyr gwaed. Efallai y bydd angen i chi gael cynnig pigiadau gwrth-D mewn beichiogrwydd
yn y dyfodol.

 

A yw gwrth-D yn ddiogel?

Ydy. Gall pigiadau gwrth-D achosi rhywfaint o boen ysgafn pan fyddant yn cael eu chwistrellu i’r cyhyr. Weithiau gall pigiadau gwrth-D achosi adweithiau alergaidd. Mae sut y mae’n cael ei gynhyrchu’n cael ei reoli’n llym, felly mae’r risg o feirws hysbys yn cael ei drosglwyddo i chi o roddwr yn isel iawn.

 

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer fy ngrŵp gwaed a gwrthgyrff?

Os byddwch yn cael y prawf hwn, byddwch yn gwybod eich grŵp gwaed ac a ydych yn D positif neu’n D negatif.


Mae’n llai cyffredin bod yn D negatif. Os ydych yn D negatif, byddwch yn cael cynnig prawf DNA di-gell y ffetws. Os yw eich babi’n D negatif
ni fyddech yn cael cynnig pigiadau gwrth-D.


Bydd y prawf yn chwilio am wrthgyrff hefyd. Mae’n bwysig gwybod am y rhain fel y gellid rhoi trallwysiad gwaed yn ddiogel os bydd ei angen arnoch. Yn anaml iawn, mae gwrthgyrff sy’n bresennol yn eich gwaed yn achosi risg i’ch babi. Os bydd hyn yn digwydd gellir rhoi gofal arbenigol i chi a’ch babi.

 

Beth yw anfantesision cael prawf sgrinio ar gyfer fy ngrŵp gwaed a gwrthgyrff?

Mae sgrinio yn brawf gwaed syml. Byddai’r unig risg yr un fath â chael unrhyw brawf gwaed.

 

Os ydych yn gwybod eich bod yn Rhesws D negyddol

Cysylltwch â’ch bydwraig neu eich meddyg ysbyty (obstetregydd) cyn gynted â phosibl i’w hatgoffa eich bod yn D negatif
os byddwch yn:

  • gwaedu o’r wain ar ôl 12 wythnos o feichiogrwydd
  • cael camesgoriad ar ôl 12 wythnos o feichiogrwydd, neu’n
  • dioddef anaf i’ch abdomen (er enghraifft, anaf o wregys diogelwch mewn damwain car neu drwy syrthio).

Os bydd unrhyw un o’r pethau hyn yn digwydd, efallai y bydd eich corff yn dechrau cynhyrchu gwrthgyrff ac efallai y bydd angen pigiad gwrth-D arnoch.

 

Rhesymau eraill dros gael cynnig pigiad gwrth-D

Dylech gael cynnig pigiad gwrth-D i leihau’r risg y byddwch yn cynhyrchu gwrthgyrff. Mae hyn yn cynnwys:

  • os byddwch yn cael samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis (gweler Adran 7 i gael gwybodaeth am brofion mewnwthiol)
  • os byddwch yn cael camesgoriad
  • os byddwch yn cael beichiogrwydd ectopig
  • os nad yw grŵp gwaed eich babi yn hysbys, neu
  • ar ôl i’ch babi gael ei eni, canfyddir ei fod yn D positif.