Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 - Eich grŵp gwaed a beichiogrwydd

 

Argraffwch y dudalen hon

 

Mae’r adran hon yn esbonio’r profion y gellir eu cynnal yn ystod beichiogrwydd er mwyn:

  • canfod eich grŵp gwaed
  • canfod eich grŵp Rhesws D, a
  • chwilio am wrthgyrff.

Bydd angen i’r bobl sy’n gofalu amdanoch yn ystod eich beichiogrwydd wybod eich grŵp gwaed rhag ofn y bydd angen trallwysiad gwaed arnoch. Hefyd, mae’n bwysig gwybod eich grŵp Rhesws D.
 

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Beth yw eich grŵp gwaed?

Bydd eich grŵp gwaed yn un o’r pedwar prif grŵp canlynol.

  • Grŵp O
  • Grŵp A
  • Grŵp B
  • Grŵp AB

Hefyd, mae gennych grŵp gwaed arall, sef y grŵp D (Rhesws). Gallwch fod naill ai’n Rhesws D positif neu’n Rhesws D negyddol. Er enghraifft, gallai eich grŵp gwaed cyffredinol gael ei ysgrifennu fel ‘O Rh D positif’.
 

Beth yw gwrthgyrff celloedd coch?

Mae celloedd coch yn cludo ocsigen yn eich gwaed. Gwrthgyrff yw amddiffyniad naturiol eich corff yn erbyn unrhyw beth y mae eich corff yn credu ei fod yn estron. Gallwch ffurfio gwrthgyrff os yw celloedd gwaed â grŵp gwaed gwahanol i’ch un chi’n mynd i mewn i’ch llif gwaed.

Gall hyn ddigwydd oherwydd trallwysiad gwaed neu o’ch babi yn ystod beichiogrwydd.

Gall gwrthgyrff celloedd coch drosglwyddo o’ch llif gwaed chi i un eich babi. Gall hyn niweidio gwaed eich babi. Weithiau, mae’n achosicy cyflwr prin o’r enw clefyd hemolytig y ffetws a’r newydd-anedig. Mae’r symptomau’n cynnwys clefyd melyn ac anemia (diffyg celloedd gwaed coch). Fel arfer, mae angen i fabanod y mae’n effeithio arnynt gael eu derbyn i’r ysbyty, lle mae’r driniaeth yn cynnwys ffototherapi (triniaeth â golau) a thrallwysiadau gwaed weithiau.
 

Y Prawf

Prawf gwaed yw’r prawf y gellir ei wneud gyda phrofion gwaed eraill, fel arfer yn gynnar yn ystod beichiogrwydd. Cynigir y prawf gwaed hwn i chi eto ar ôl tua 28 wythnos eich beichiogrwydd.
 

Os ydych yn Rhesws D negyddol

Os ydych yn Rhesws D negyddol ac mae’ch babi yn Rhesws D positif, ac mae rhai o gelloedd gwaed eich babi yn mynd i mewn i’ch llif gwaed, gallai eich corff gynhyrchu gwrthgyrff i ddinistrio’r celloedd gwaed Rhesws D positif ‘estron’ hyn. Weithiau, mae hyn yn digwydd yn ystod beichiogrwydd neu, yn fwy tebygol, pan gaiff eich babi ei eni. Os ydych yn Rhesws D positif, nid yw’r broblem hon yn digwydd fel arfer.
 

A oes modd atal clefyd hemolytig y ffetws a’r newydd-anedig?

Er mwyn helpu i atal clefyd hemolytig y ffetws a’r newydd-anedig, os ydych yn Rhesws D negyddol, byddwch yn cael cynnig pigiad neu bigiadau o imiwnoglobwlin gwrth-D yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni os yw’ch babi yn Rhesws D positif. Gall hyn helpu i atal eich corff rhag gwneud gwrthgyrff Rhesws D ac mae’n lleihau’r risg o broblemau yn ystod beichiogrwydd yn y dyfodol.
 

Beth yw imiwnoglobwlin gwrth-D?

Mae imiwnoglobwlin gwrth-D (pigiad) yn gynnyrch gwaed a wneir o waed a gasglwyd gan roddwyr.
 

A yw imiwnoglobwlin gwrth-D yn ddiogel?

Yn achlysurol, mae imiwnoglobwlin gwrth-D yn achosi adweithiau alergaidd. Mae’r ffordd y caiff ei gynhyrchu yn cael ei rheoli’n llym iawn, felly mae risg isel iawn y bydd feirws hysbys yn cael ei drosglwyddo i chi o’r rhoddwr.
 

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer fy ngrŵp gwaed a’m gwrthgyrff?

Os ydych yn cael y prawf hwn, byddwch yn gwybod eich grŵp gwaed ac a ydych yn Rhesws D positif neu’n Rhesws D negyddol. Mae Rhesws D negyddol yn llai cyffredin.

Bydd y prawf hefyd yn chwilio am wrthgyrff. Mae’n bwysig gwybod am y rhain fel y gellid rhoi trallwysiad gwaed yn ddiogel i chi os bydd ei angen arnoch. Yn anaml, gallai gwrthgyrff sy’n bresennol yn eich gwaed effeithio ar eich babi fel yr esboniwyd uchod. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch chi a’ch babi gael gofal arbenigol.

Mae tua 15% (15 mewn 100) o’r boblogaeth yn Rhesws D negyddol.
 

Beth yw anfantesision cael prawf sgrinio ar gyfer fy grŵp gwaed a’m gwrthgyrff?

Prawf gwaed syml yw’r sgrinio. Yr un risg sydd i unrhyw brawf gwaed.
 

Profion diagnostig ar gyfer grŵp gwaed a gwrthgyrff celloedd coch

Mae’r prawf sgrinio ar gyfer grŵp gwaed a gwrthgyrff celloedd coch yn gywir iawn. Weithiau, bydd angen profion gwaed ychwanegol arnoch os amheuir neu os ceir problem.
 

Os ydych yn gwybod eich bod yn Rhesws D negyddol

Cysylltwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg ysbyty (obstetregydd) cyn gynted â phosibl i’w hatgoffa eich bod yn Rhesws D negyddol os yw’r canlynol yn digwydd:

  • rydych yn gwaedu o’r wain ar ôl 12 wythnos o feichiogrwydd
  • rydych yn cael camesgoriad ar ôl 12 wythnos o feichiogrwydd
  • rydych yn dioddef anaf i’ch abdomen (er enghraifft, anaf o wregys diogelwch mewn damwain car neu drwy syrthio drosodd).

Os yw unrhyw un o’r pethau hyn yn digwydd, efallai y bydd eich corff yn dechrau cynhyrchu gwrthgyrff ac mae’n bosibl y bydd angen pigiad gwrth-D arnoch.