Neidio i'r prif gynnwy

Adran 3 - Heintiau yn ystod beichiogrwydd

 

Argraffwch y dudalen hon

 

Amddiffyn eich babi

Mae’r adran hon yn esbonio rhai o’r heintiau a all achosi problemau i chi neu’ch babi, ond y gellir eu trin.

Y rhain yw:

  • feirws imiwnoddiffygiant dynol (HIV)
  • hepatitis B, a
  • siffilis.

Mae profion sgrinio ar gyfer yr holl heintiau hyn a bydd eich bydwraig yn cynnig y rhain i chi.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.


 

Pam yr argymhellir y profion?

Os oes gennych un o’r heintiau hyn ac nid yw’n cael ei drin, gallai eich babi ddal yr haint gennych yn ystod y beichiogrwydd neu’r enedigaeth neu ar ôl yr enedigaeth.

Cynigir ac argymhellir profion sgrinio ar gyfer HIV, hepatitis B a siffilis ym mhob beichiogrwydd.

Gall yr holl heintiau hyn fod yn ddifrifol ac, os na chânt eu trin, gallant achosi problemau i chi neu’ch babi. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sydd â’r heintiau hyn yn teimlo’n sâl ac ni fyddant yn gwybod bod ganddynt yr heintiau hyn. Os oes gennych un o’r heintiau hyn, bydd triniaeth yn lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd eich babi yn dal yr haint.
 

Y prawf

Prawf gwaed yw’r prawf y gellir ei wneud gyda phrofion gwaed eraill, fel arfer yn gynnar yn ystod beichiogrwydd.
 

Sut y cynhelir y profion?

Gellir cynnal yr holl brofion sgrinio ar gyfer HIV, hepatitis B a siffilis ar un sampl gwaed. Gallwch ddewis pa brofion a gynhelir. Dim ond ychydig bach o waed sydd ei angen.
 

Pam y dylwn gael y prawf?

Drwy dderbyn prawf sgrinio ar gyfer HIV, hepatitis B a siffilis, rydych yn penderfynu cael gwybod a oes gennych yr haint fel y gellir gwneud popeth sy’n bosibl i amddiffyn eich babi.
 

Beth os penderfynaf beidio â chael prawf sgrinio ar gyfer HIV, hepatitis B neu siffilis?

Os byddwch yn penderfynu peidio â chael prawf sgrinio ar gyfer HIV, hepatitis B neu siffilis, bydd eich bydwraig yn gofyn i chi pam er mwyn sicrhau eich bod wedi deall y rhesymau dros y prawf. Yn ddiweddarach yn ystod eich beichiogrwydd, bydd eich bydwraig yn gofyn a ydych am drafod y prawf sgrinio ac yn ei gynnig i chi eto.

Gallwch ofyn am brawf sgrinio ar gyfer HIV, hepatitis B neu siffilis ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd.

Os ydych yn poeni, pan fyddwch yn feichiog, y gallech fod wedi dal HIV, hepatitis B, siffilis neu glefydau eraill y gellir eu trosglwyddo rhwng pobl, gallwch ofyn i’ch bydwraig gynnal prawf arall ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Hefyd, gallwch gael profion cyfrinachol o’ch clinig iechyd rhywiol agosaf.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch siarad â’ch clinig iechyd rhywiol GIG agosaf – ffoniwch eich ysbyty lleol a gofynnwch am y clinig iechyd rhywiol neu’r clinig meddygaeth genhedlol-wrinol.
 

Bydd eich bydwraig yn cynnig prawf sgrinio i chi ar gyfer HIV, hepatitis B a siffilis

Opsiwn 1: Dewis cael y prawf sgrinio

Prawf gwaed yw'r prawf y gellir ei wneud gyda phrofion gwaed eraill, fel arfer yn gynnar yn ystod beichiogrwydd. Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y byddwch yn cael canlyniadau'r profion y dewiswch eu cael

Opsiwn 2: Dewis peidio a chael y prawf sgrinio

Yn ddiweddarach yn ystod eich beichiogrwydd, bydd eich bydwraig yn gofyn a ydych am drafod y prawf sgrinio ac yn ei gynnig i chi eto, fel arfer yn eich apwyntiad cyn geni 28 wythnos.

 

Feirws imiwnoddiffygiant dynol (HIV) Beth yw HIV?

Mae HIV yn feirws sy’n ymosod ar y system imiwnedd. Dyma’r feirws a all arwain at syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig (AIDS). Gall person sydd wedi’i heintio â HIV edrych a theimlo’n iach am lawer o flynyddoedd.

Mae’n bosibl na fyddant yn gwybod eu bod wedi’u heintio oni bai eu bod yn cael prawf gwaed. Fodd bynnag, gellir trosglwyddo’r feirws hwn i’r babi yn ystod beichiogrwydd neu’r enedigaeth neu wrth fwydo ar y fron.
 

Sut y gelli'r dal HIV?

Gellir dal HIV drwy:

  • fam sydd wedi’i heintio’n ei drosglwyddo i’w babi yn ystod beichiogrwydd neu’r enedigaeth neu wrth fwydo ar y fron
  • cael gweithgarwch rhywiol heb ddiogelwch (heb gondom) gyda rhywun sydd wedi’i heintio
  • trallwysiad gwaed neu gynhyrchion gwaed sy’n cynnwys y feirws (profir y rhain yn y DU, ond nid ym mhob gwlad arall)
  • rhannu nodwyddau a chyfarpar chwistrellu wedi’u heintio
  • dod i gysylltiad â nodwyddau budr a ddefnyddiwyd wrth dyllu’r corff a thatŵio.
     

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer HIV yn ystod beichiogrwydd?

Bydd 25% (1 mewn 4) o fabanod a enir i famau sydd â haint HIV heb ei drin, neu nad ydynt yn gwybod bod ganddynt haint, yn cael eu heintio â HIV.

Os canfyddir bod gennych HIV, gellir gwneud nifer o bethau i leihau’r tebygolrwydd y byddwch yn ei drosglwyddo i’ch babi. Cewch gynnig triniaeth a gofal arbenigol. Hefyd, gall y driniaeth helpu i’ch cadw’n iachach.
 

Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio ar gyfer HIV yn ystod beichiogrwydd?

Nid oes adeg dda i gael gwybod eich bod yn HIV positif. Fodd bynnag, os cewch wybod pan fyddwch yn feichiog, gallwch gael triniaeth i’ch helpu i atal eich babi rhag dal y feirws gennych.
 

A ddylwn gael y prawf sgrinio ar gyfer HIV?

Dim ond chi all benderfynu a ddylid cael y prawf ai peidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru yn argymell y prawf sgrinio ar gyfer HIV oherwydd ei bod yn bosibl lleihau’r tebygolrwydd y bydd eich babi yn dal y feirws os ydych yn HIV positif.
 

Beth y bydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddweud wrthyf?

Mae canlyniad prawf sgrinio negyddol yn dweud wrthych ei bod yn annhebygol iawn bod gennych haint HIV.

Os ydych wedi dal HIV yn ystod yr wythnosau cyn y cymerir y sampl gwaed, mae’n bosibl na fydd eich corff wedi dechrau cynhyrchu gwrthgyrff ac ni fydd y prawf yn gallu canfod yr haint.

Mae’n bwysig cofio y gallwch ddal HIV pan fyddwch yn feichiog. Os byddwch yn newid eich partner rhywiol pan fyddwch yn feichiog, dylech ddefnyddio condom.
 

Beth yw’r prawf diagnostig ar gyfer HIV?

Weithiau, gall y prawf gwaed HIV roi canlyniad aneglur (adweithiol) a gall fod angen rhagor o brofion i gadarnhau nad oes gennych haint.

Os yw’r prawf sgrinio’n dangos eich bod yn HIV positif, byddwch yn cael prawf gwaed arall i gadarnhau’r haint ac arwain yr opsiynau o ran triniaeth.
 

Beth os oes gennyf HIV?

Os yw’r prawf yn dangos bod gennych HIV, byddwch yn gallu cynllunio gyda’ch bydwraig neu’ch meddyg ysbyty beth sy’n digwydd nesaf.

Byddwch yn cael cynnig gofal a thriniaeth feddygol arbenigol i helpu gyda’r haint. Bydd hyn yn helpu i leihau’r risg y bydd eich babi yn dal y feirws.

Bydd y driniaeth yn cynnwys therapi cyffuriau. Ni fydd y driniaeth hon yn eich gwella’n llwyr, ond bydd yn gwella’ch iechyd. Hefyd, mae’n bosibl y cewch eich cynghori i gael genedigaeth Gesaraidd ac i fwydo llaeth fformiwla i’ch babi.
 

A yw cael y prawf sgrinio HIV yn effeithio ar bolisïau yswiriant?

Ni ddylai cwmnïau yswiriant ofyn a yw rhywun sy’n gwneud cais am yswiriant wedi cael prawf ar gyfer HIV. Y cyfan y cânt ei ofyn yw a yw rhywun wedi cael canlyniad prawf positif. Os oes gennych bolisi yswiriant bywyd eisoes, ni fydd cael prawf HIV yn effeithio arno, hyd yn oed os yw’r canlyniad yn bositif, ar yr amod nad oeddech wedi atal unrhyw ffeithiau pwysig pan wnaethoch drefnu’r polisi.
 

Hepatitis B

Beth yw hepatitis B?

Mae hepatitis B yn feirws sy’n effeithio ar yr afu. Nid yw llawer o bobl

sydd â hepatitis B yn gwybod ei fod ganddynt. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sydd â hepatitis B yn gwella’n llwyr, ond mae nifer bach yn cludo’r feirws. Gall pobl sy’n ei gludo ddatblygu clefyd difrifol yr afu.

Os oes gan fenyw feichiog hepatitis B, gall ei babi fod yn agored i’r feirws hepatitis B yn ystod yr enedigaeth. Gall babi sy’n dal y feirws fod â’r haint am oes a gall fod mewn perygl o ddatblygu clefyd yr afu.
 

Sut y gellir dal hepatitis B?

Gellir dal hepatitis B drwy:

  • fam sydd wedi’i heintio’n ei drosglwyddo i’w babi yn ystod yr enedigaeth
  • cael gweithgarwch rhywiol heb ddiogelwch (heb gondom) gyda rhywun sydd wedi’i heintio
  • dod i gysylltiad â hylifau corff rhywun sydd wedi’i heintio
  • dod i gysylltiad â nodwyddau budr a ddefnyddiwyd wrth dyllu’r corff a thatŵio
  • rhannu nodwyddau a chyfarpar chwistrellu wedi’u heintio
  • trallwysiad gwaed neu gynhyrchion gwaed sy’n cynnwys y feirws (profir y rhain yn y DU, ond nid ym mhob gwlad arall)
  • byw am gyfnod hir mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi’i heintio.
     

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer hepatitis B yn ystod beichiogrwydd?

Mae’n bwysig cael prawf ar gyfer hepatitis B oherwydd os bydd meddygon yn gwybod am yr haint cyn i fabi gael ei eni, gall cwrs o frechiadau sy’n cael ei ddechrau’n fuan ar ôl yr enedigaeth helpu i atal eich babi rhag dal y feirws.

Mae’r brechiadau’n amddiffyn y rhan fwyaf o fabanod rhag datblygu hepatitis B. Os oes gennych hepatitis B, mae tebygolrwydd hyd at 90% (9 mewn 10) y bydd eich babi yn cael ei heintio.

Os canfyddir bod gennych haint hepatitis B, gall eich babi gael ei frechu, ac mae’r tebygolrwydd y bydd eich babi yn cael ei heintio’n llai na 5% (pump mewn 100).
 

Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio ar gyfer

hepatitis B yn ystod beichiogrwydd?

Nid oes adeg dda i gael gwybod bod gennych hepatitis B. Fodd bynnag, os cewch wybod pan fyddwch yn feichiog, gall eich babi gael ei frechu i helpu i’w atal rhag dal y feirws gennych.
 

A ddylwn gael y prawf sgrinio ar gyfer hepatitis B

Dim ond chi all benderfynu a ddylid cael y prawf ai peidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru yn argymell y prawf sgrinio ar gyfer hepatitis B oherwydd os oes gennych hepatitis B gellir brechu’ch babi i helpu i’w atal rhag dal y feirws gennych.
 

Beth y bydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddweud wrthyf?

Mae canlyniad prawf sgrinio negyddol yn dweud wrthych ei bod yn annhebygol iawn bod gennych haint hepatitis B.

Os ydych wedi dal hepatitis B yn ystod y misoedd cyn y cymerir y sampl gwaed, mae’n bosibl na fydd y prawf yn gallu canfod yr haint.

Mae’n bwysig cofio y gallwch ddal hepatitis B pan fyddwch yn feichiog. Os byddwch yn newid eich partner rhywiol pan fyddwch yn feichiog, dylech ddefnyddio condom.
 

Beth yw’r prawf diagnostig ar gyfer hepatitis B?

Weithiau, gall y prawf gwaed hepatitis B roi canlyniad aneglur (adweithiol) ac efallai y bydd angen rhagor o brofion i gadarnhau nad oes gennych haint.

Os yw’r prawf sgrinio’n dangos bod gennych hepatitis B, bydd angen prawf gwaed arall arnoch i gadarnhau’r haint.
 

Beth os oes gennyf hepatitis B?

Os oes gennych hepatitis B, bydd eich bydwraig neu’ch meddyg yn siarad â chi am sut y bydd yn effeithio arnoch ac i gynllunio’r brechiadau y bydd eu hangen ar eich babi.

Dylid brechu:

  • fewn 24 awr i’r enedigaeth (bydd angen pigiad o wrthgyrff ar rai babanod hefyd – imiwnoglobwlin hepatitis B) yn y brechiad cyntaf
  • yn bedair wythnos oed
  • yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed (fel rhan o frechiadau arferol eich babi), ac
  • yn flwydd oed.

Hefyd, bydd angen prawf gwaed ar eich babi rhwng 12 a 13 mis oed er mwyn sicrhau nad oes ganddo’r haint.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn poeni bod pobl eraill yn eich teulu â’r haint. Gallant hefyd gael eu profi a’u brechu os oes angen.
 

Siffilis

Beth yw siffilis?

Mae siffilis yn haint bacterol difrifol. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â siffilis yn sâl am gyfnod byr i ddechrau ac mae’n bosibl na fyddant yn ymwybodol ei fod ganddynt. Ond, os na chaiff siffilis ei drin, gall achosi problemau difrifol yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys niwed i’r ymennydd a phroblemau gyda’r galon.
 

Sut y gellir dal siffilis?

Gellir dal siffilis drwy:

  • fam sydd â siffilis yn ei drosglwyddo i’w babi heb ei eni yn ystod y beichiogrwydd
  • cael gweithgarwch rhywiol heb ddiogelwch (heb gondom) gyda rhywun sydd wedi’i heintio.
     

Beth yw manteision cael prawf sgrinio ar gyfer siffilis yn ystod beichiogrwydd?

Bydd haint siffilis yn cael ei drin gyda gwrthfiotigau’n gynnar yn ystod beichiogrwydd a bydd hyn, fel arfer, yn atal eich babi rhag dal siffilis. Yn achlysurol, efallai y bydd angen gwrthfiotigau ar fabanod pan gânt eu geni hefyd.
 

Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio ar gyfer siffilis yn ystod beichiogrwydd?

Nid oes adeg dda i gael gwybod bod gennych siffilis. Fodd bynnag, os cewch wybod pan fyddwch yn feichiog, gallwch gael triniaeth i helpu i atal eich babi rhag datblygu problemau mawr.

Os canfyddir bod gennych haint siffilis ac nid yw’n cael ei drin, mae risg y gall yr haint arwain at gamesgoriad neu niwed i’ch babi.
 

A ddylwn gael y prawf sgrinio ar gyfer siffilis?

Dim ond chi all benderfynu a ddylid cael y prawf ai peidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru yn argymell y prawf sgrinio ar gyfer siffilis oherwydd y gall triniaeth gyda gwrthfiotigau helpu i atal eich babi rhag datblygu problemau mawr os oes gennych siffilis.
 

Beth y bydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddweud wrthyf?

Mae canlyniad prawf sgrinio negyddol yn dweud wrthych ei bod yn annhebygol iawn bod gennych haint siffilis.

Os ydych wedi dal siffilis yn ystod yr wythnosau cyn y cymerir y sampl gwaed, mae’n bosibl na fydd eich corff wedi dechrau cynhyrchu gwrthgyrff ac ni fydd y prawf yn gallu canfod haint.

Mae’n bwysig cofio y gallwch ddal siffilis pan fyddwch yn feichiog. Os byddwch yn newid eich partner rhywiol pan fyddwch yn feichiog, dylech ddefnyddio condom.
 

Beth yw’r prawf diagnostig ar gyfer siffilis?

Weithiau, gall y prawf gwaed siffilis roi canlyniad aneglur (adweithiol) ac efallai y bydd angen rhagor o brofion i gadarnhau nad oes gennych haint.

Os yw’r prawf sgrinio’n bositif, cewch apwyntiad gyda meddyg sy’n arbenigo yn y mathau hyn o glefydau. Bydd y meddyg hwn yn gofyn cwestiynau i chi, gan gynnwys cwestiynau am heintiau blaenorol, i wneud diagnosis a phenderfynu ar y driniaeth orau.

Nid yw bob amser yn hawdd deall canlyniadau’r prawf sgrinio ar gyfer siffilis. Weithiau, daw canlyniad y prawf sgrinio’n ôl yn bositif oherwydd eich bod wedi cael siffilis yn y gorffennol ac wedi cael eich trin, neu oherwydd bod gennych broblem wahanol a llai difrifol.
 

Beth os oes gennyf siffilis?

Os oes gennych siffilis, bydd eich bydwraig neu’ch meddyg ysbyty’n siarad â chi am sut y bydd yn effeithio arnoch. Yn ôl pob tebyg, bydd gwrthfiotigau’n cael eu rhoi i chi a bydd angen rhagor o brofion gwaed arnoch.
 

Heintiau eraill

Os byddwch yn cael brech neu’n dod i gysylltiad â rhywun sydd â brech pan fyddwch yn feichiog, mae angen i chi ddweud wrth eich bydwraig neu’ch meddyg. Efallai y bydd angen i chi gael profion gwaed eraill i gael gwybod beth sydd wedi achosi’r frech.

Mae ychydig o heintiau sy’n achosi brech y mae’n bwysig gwybod amdanynt yn ystod beichiogrwydd. Y rhain yw brech goch yr Almaen (rwbela), brech yr ieir, y frech goch a haint parfofeirws (a elwir fel arfer yn syndrom y foch goch).
 

Rwbela

Byddwch yn cael eich amddiffyn rhag rwbela os ydych erioed wedi cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys rwbela. Bydd angen dau ddos o’r brechlyn arnoch os nad ydych wedi’i gael neu os na allwch gofio ei gael.

Bydd angen y rhain arnoch ar ôl i’ch babi gael ei eni. Fel arfer, byddwch yn cael y brechlyn cyntaf ym meddygfa’ch meddyg, a’r ail ddos fis yn ddiweddarach.

Os nad ydych yn siŵr pa frechiadau rydych wedi’u cael, dylech ofyn i’ch meddygfa wirio’ch hanes imiwneiddio, y mae’n bosibl ei fod wedi’i gofnodi yng nghofnodion eich meddyg teulu.

Mae dal rwbela yn ystod beichiogrwydd yn eithriadol o brin yng Nghymru, ond gall fod yn ddifrifol iawn i’ch babi. Gall achosi cyflwr o’r enw syndrom rwbela cynhenid. Gall hyn arwain at fyddardod, dallineb, cataractau (cyflyrau llygaid) neu hyd yn oed gyflyrau’r galon yn eich babi. Hefyd, yn brin iawn, gall arwain at farwolaeth eich babi.
 

Brech yr ieir

Mae brech yr ieir yn haint cyffredin iawn a bydd y rhan fwyaf o fenywod wedi cael brech yr ieir pan oeddent yn blant a bydd ganddynt imiwnedd. Os dewch i gysylltiad â rhywun sydd â brech yr ieir neu os cewch frech yr ieir pan fyddwch yn feichiog, efallai y cewch gynnig triniaeth. Bydd hyn yn helpu i atal neu leihau symptomau’r haint.
 

Y frech goch

Byddwch yn cael eich amddiffyn rhag y frech goch os ydych wedi cael yr haint o’r blaen neu os ydych erioed wedi cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys y frech goch (er enghraifft, y frech goch a rwbela neu’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela yn yr ysgol, pan oeddech yn blentyn, neu ym meddygfa eich meddyg). Os dewch i gysylltiad â rhywun sydd â’r frech goch pan fyddwch yn feichiog neu os bydd gennych y frech goch pan fyddwch yn feichiog, efallai y cewch gynnig triniaeth. Bydd hyn yn helpu i atal neu leihau symptomau’r haint.

Mae’r frech goch yn brin yn y DU. Os byddwch yn dal y frech goch pan fyddwch yn feichiog, gall eich symptomau fod yn fwy difrifol.
 

Parfofeirws

Fel arfer, mae parfofeirws yn haint ysgafn iawn ymhlith menywod ond, yn achlysurol, gall achosi problemau ymhlith babanod heb eu geni. Nid oes brechlyn i atal yr haint hwn. Mewn achosion prin pan fo menywod yn dal parfofeirws yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, mae’n bosibl y bydd problemau gan eu babanod heb eu geni. Os byddwch yn dal parfofeirws yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, caiff sganiau ychwanegol eu cynnig i chi er mwyn chwilio am arwyddion o’r problemau hyn yn eich babi.