Neidio i'r prif gynnwy

Adran 5 - Sganiau uwchsain yn ystod beichiogrwydd

 

Argraffwch y dudalen hon

 

Mae’r adran hon yn esbonio’r ddau brawf sgrinio uwchsain a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd. Gallwch ddewis a ydych am gael y profion hyn ai peidio.

Mae’n esbonio:

  • beth yw’r profion
  • pam y cânt eu cynnal
  • pryd y cânt eu cynnal.

Mae’r sgan yn ffordd o wirio ei bod yn ymddangos bod eich babi’n datblygu yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn golygu y gall ddangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn gan brofion eraill. Ni all sgan ddod o hyd i’r holl gyflyrau sy’n cael eu sgrinio

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Beth yw sgan uwchsain?

Mae peiriant uwchsain yn defnyddio tonnau sain i greu delwedd ar sgrîn cyfrifiadur.

Sonograffydd yw’r sawl sy’n gwneud y sgan. Bydd y sonograffydd yn esbonio i chi beth y mae’n ei wneud ac am beth mae’n chwilio.
 

Sut y trefnir y sgan?

Os byddwch yn penderfynu yr hoffech gael sgan, bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gellir ei gynnal ac yn trefnu’r apwyntiad i chi.

Os ydych wedi cael apwyntiad ac yna’n penderfynu nad ydych am gael sgan, dywedwch wrth eich bydwraig a chanslo’r apwyntiad.
 

Sut y cynhelir y sgan?

Bydd angen i chi orwedd ar eich cefn i gael y sgan. Nid oes angen i chi wisgo dillad penodol ar gyfer y sganiau. Fodd bynnag, gofynnir i chi godi’ch dillad uchaf i’ch brest a gollwng eich sgert neu’ch trowsus i’ch cluniau. Caiff gel ei daenu ar eich abdomen isaf fel y gellir symud dyfais o’r enw troswr yn ôl ac ymlaen dros eich abdomen. Efallai y bydd angen i’r sonograffydd bwyso ar eich abdomen â’r troswr er mwyn gweld eich babi yn iawn.

Nid yw tonnau uwchsain yn symud drwy’r aer, felly mae’r gel yn sicrhau bod cyswllt da rhwng eich croen a’r troswr. Bydd papur tisw yn diogelu’ch dillad rhag y gel.

Mae’r troswr yn pasio tonnau sain drwy’ch abdomen i mewn i’r groth. Mae’r tonnau sain yn neidio’n ôl oddi ar eich babi ac yn cael eu trosi’n ddelwedd ar sgrîn.

Bydd y sonograffydd yn cael delwedd gliriach o’ch babi os na fydd eich pledren yn gwbl wag pan gewch eich sgan. Ceisiwch beidio â phasio wrin am ryw awr cyn eich apwyntiad.

Er mwyn i’r sonograffydd weld eich babi’n glir ar y sgrîn, cynhelir y sgan mewn ystafell dywyll. Mae sganio’n cynnwys llawer o waith canolbwyntio, felly cedwir yr ystafell yn dawel hefyd. Bydd sonograffydd yn esbonio beth y maent yn ei wneud ac am beth y maent yn chwilio.
 

A yw sganiau’n ddiogel?

Hyd y gwyddom, mae’r sgan dyddio beichiogrwydd cynnar a’r sgan anomaledd y ffetws a gynigir gennym yn ddiogel i’r fam a’r babi.
 

Beth yw sganiau dyddio beichiogrwydd cynnar ac anomaledd y ffetws?

Gall y ddau sgan hyn ganfod problemau annisgwyl annisgwyl cyn i’ch babi gael ei eni. Gall cael gwybod am broblem sydd gan eich babi cyn yr enedigaeth eich helpu chi a’ch partner i baratoi’ch hunain. Weithiau, gall helpu i gynllunio triniaeth ar gyfer y cyfnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.

Weithiau, pan fo menywod yn cael gwybod am ganfyddiadau annisgwyl, mae’n bosibl y byddant am ystyried rhoi terfyn ar y beichiogrwydd.
 

Beth yw anfanteision cael y sganiau hyn?

Gall cael y sganiau’ch gwneud yn bryderus, yn enwedig os oes canfyddiad annisgwyl. Os yw’n well gennych beidio â gwybod, mae angen i chi feddwl yn ofalus a ddylech gael y sganiau. Dylech drafod eich pryderon â’ch bydwraig.
 

Canlyniadau

Sut y gallaf gael canlyniadau’r sganiau hyn?

Bydd y sonograffydd yn dweud wrthych am ganlyniadau’ch sgan ar ddiwedd yr archwiliad.
 

A allaf ddod â theulu neu ffrindiau gyda mi pan fyddaf yn cael y sgan?

Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn iach ond, oherwydd y gall y sganiau ddangos canfyddiadau annisgwyl, mae’n bosibl y byddwch am ofyn i’ch partner neu un oedolyn a all eich cefnogi i ddod gyda chi ar gyfer eich sgan.

Mae’n well peidio â dod â phlant i’r apwyntiad. Gallant dynnu’ch sylw chi a’r sonograffydd yn ystod y sgan. Os ceir canfyddiadau annisgwyl ar y sgan, bydd y sonograffydd yn dweud wrthych amdanynt, ac nid yw hon yn sefyllfa addas i blant.
 

A allaf gael llun o’m babi?

Weithiau, mae’n bosibl prynu lluniau o’ch babi a dynnir yn ystod y sgan. Dywedwch wrth y sonograffydd os hoffech wneud hyn cyn i’r sgan ddechrau. Bydd y sonograffydd yn cael y llun gorau o’ch babi o fewn amser yr apwyntiad.

Ni chaniateir recordio fideo na defnyddio ffonau symudol yn yr ystafell uwchsain nac yn ystod y sgan.
 

Y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar

Cynigir sgan dyddio beichiogrwydd cynnar a phrawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau ar ôl  11 i 14 wythnos, gallwch:

  1. Dewis sgan dyddio beichiogrwydd cynnar a phrawf sgrinio ar gyfer synfrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau (gweler adran 6)
  2. Dewis sgan dyddio beichiogrwydd cynnar yn unig
  3. Dewis peidio a chael sgan dyddio beichiogwydd cynnar na phrawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau

 

Faint o amser fydd fy sgan yn ei gymryd?

Mae’r sgan dyddio beichiogrwydd cynnar yn cymryd tua 10 i 20 munud. Cynhelir y sgan er mwyn:

  • gwirio curiad calon eich babi
  • cael gwybod a ydych yn cario mwy nag un babi (bydd angen gofal cyn geni ychwanegol arnoch os yw hyn yn wir, ac mae’n bwysig gwybod a yw’ch babanod yn rhannu’r un brych)
  • mesur eich babi i wirio ers faint rydych wedi bod yn feichiog a’r dyddiad y disgwylir eich babi (mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn ystyried cael rhagor o brofion sgrinio)
  • mesur tryleuder y gwegil (y crynhoad bach o hylif yng nghefn gwddf eich babi), os ydych wedi gofyn am brawf sgrinio syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau
  • gwirio datblygiad eich babi (nid yw datblygiad eich babi yn glir iawn ar y cam cynnar hwn, ond weithiau gellir canfod cyflyrau difrifol).
     

A fydd angen sgan dyddio beichiogrwydd cynnar arall arnaf?

Weithiau, ni ellir gweld eich babi yn glir drwy ddefnyddio troswr abdomenol, felly efallai y bydd y sonograffydd yn awgrymu eich bod yn cael sgan mewnol. Yr enw ar hyn yw sgan trawsweiniol, a gall roi llun manylach. Gofynnir i chi wagio’ch pledren cyn y sgan hwn. Gosodir  troswr bach yn eich gwain, mewn modd tebyg i osod tampon.

Nid yw sgan uwchsain gweiniol yn boenus fel arfer. Bydd y sonograffydd yn esbonio am y sgan ac yn gofyn i chi gytuno i’w wneud. Os nad ydych am gael sgan mewnol, dywedwch wrth y sonograffydd. Cewch gynnig apwyntiad ar gyfer sgan abdomenol arall.
 

Sgan anomaledd y ffetws

Cynigir y sgan hwn ar ôl 18 i 20 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch derbyn neu gwrthod y sgan. 
 

Faint o amser fydd fy sgan yn ei gymryd?

Fel arfer, mae’r sgan anomaledd y ffetws yn cymryd tua 15 i 30 munud. Cynhelir y sgan er mwyn:

  • gwirio datblygiad corfforol eich babi
  • helpu i ganfod newidiadau strwythurol (a elwir yn anomaleddau hefyd) fel spina bifida, cyflyrau arennol neu gyflyrau’r galon
  • gwirio faint o hylif sydd o amgylch eich babi yn y groth, ac
  • edrych ar safle’r brych.

Os ydych am wybod rhyw’r babi ac mae’r sonograffydd yn gallu ei gweld, bydd yn dweud wrthych ar adeg y sgan. Ni fydd yn ei ysgrifennu i lawr.
 

A fydd angen sgan anomaledd y ffetws arall arnaf?

Bydd y sonograffydd yn defnyddio rhestr wirio y cytunwyd arni ar gyfer Cymru gyfan i chwilio am gyflyrau penodol (fel spina bifida) ac edrych ar strwythurau (fel y galon). Hefyd, rhaid i’r sonograffydd ganolbwyntio’n galed iawn yn ystod y sgan, felly sicrhewch na fyddwch chi na’r sawl sy’n eich cefnogi yn tynnu ei sylw. Weithiau, nid yw’n bosibl gweld popeth ar y rhestr yn ystod eich sgan. Gall hyn fod am y rhesymau canlynol:

  • roedd eich babi yn gorwedd mewn safle a oedd yn golygu ei bod yn anodd ei archwilio, neu
  • rydych yn pwyso’n fwy na’r cyfartaledd ar gyfer eich taldra ac roedd hyn yn golygu ei bod yn anodd edrych ar eich babi gan nad oedd y delweddau’n glir.

Os bydd hyn yn digwydd, cewch apwyntiad arall i ddod yn ôl ar gyfer un sgan arall i weld a all y sonograffydd gwblhau’r rhestr wirio. Nid yw bob amser yn bosibl i’r sonograffydd gwblhau’r rhestr, hyd yn oed ar yr ail apwyntiad.

 

Beth mae’r sgan yn gallu ei ganfod?

Gall sgan ddangos rhai canfyddiadau annisgwyl gyda datblygiad eich babi, ond nid pob canfyddiad annisgwyl. Gall rhai ddatblygu ar ôl 20 wythnos ac efallai na fydd rhai yn ymddangos ar y sgan. Dyma pam, mewn nifer bach o achosion, y mae babanod yn cael eu geni gyda phroblemau heb ddiagnosis.

Mae Tabl 1 yn rhestru rhai enghreifftiau o gyflrau. Mae’r golofn dde’n dangos pa mor debygol ydyw y gallai sgan anomaledd y ffetws nodi pob cyflwr. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys yr holl gyflyrau y gellir eu gweld.

Gellir achosi rhai cyflyrau os yw’ch babi yn cael newid cromosomaidd sy’n effeithio ar y ffordd y mae’ch babi’n datblygu. Os amheuir newid cromosomaidd, efallai y cewch gynnig amniosentesis. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y prawf hwn yn adran 7.

 

Tabl 1

Y cyflwr
Y tebygolrwydd y caiff y cyflwr ei weld ar sgan anomaledd y ffetws ar ôl 18 i 20 wythnos.

Spina bifida (croen neu esgyrn ddim yn gorchuddio llinyn asgwrn y cefn)

Mae spina bifida'n nam wrth ddatblygu asgwrn y cefn a llinwn asgyrn y cefn sy'n gadael bwlch yn asgwrn y cefn. Mae llinwn asgwn y cefn yn cysulltu pob rhan o'r corff a'r ymenydd

90%

Cyflwr difriol y gaoln, er enghraifft, pedwarawd fallot

Mae pedwarawd fallot yn gyflwr difrifol y galon lle nad yw'r galon weid datblugy yn yr un modd â chalon arferol y groth. Bydd angen llawdriniaeth ar gyfer y cyfle hwn, fel arfer yn ystod y flwyddyn gwyntaf ar ôl genedigaeth.

73%

Anhwylderau'r sbectrwm awtistig (awtistiaeth)

Ni ellir nodi awtistiaeth ar sgan gan nad oes anormaledd strwythurol

0%


Beth fydd yn digwydd os bydd canfyddiad annisgwyl yn cael ei amau yn ystod y sgan?

Os yw’r sonograffydd yn dod y hyd i ganfyddiad annisgwyl, bydd yn rhoi gwybod i chi a byddwch yn gallu siarad â’r bydwragedd neu’r meddyg ysbyty yn eich clinig cyn geni.

Gall fod yn ofidus cael newyddion annisgwyl. Rydym yn argymell y daw eich partner neu un oedolyn yn unig gyda chi i apwyntiad y sgan.

Weithiau, nid yw’n bosibl, yn y sgan anomaledd y ffetws cyntaf, i’r sonograffydd nodi beth yn union yw’r canfyddiad annisgwyl. Gallech gael cynnig sgan arall mewn adran arall neu gydag arbenigwr sy’n ymdrin â’r math o gyflwr yr amheuir ei fod gan eich babi.
 

Profion mewnwthiol yn dilyn sgan anomaledd y ffetws

Mae’n bosibl y caiff prawf arall ei gynnig i chi, fel amniosentesis (gweler adran 7). Bydd eich bydwraig neu’ch meddyg ysbyty (obstetregydd) yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am unrhyw brofion eraill.
 

Beth fydd yn digwydd os canfyddir anomaledd pendant?

Gall cael gwybod y gall fod cyflwr gan eich babi cyn yr enedigaeth eich helpu chi a’ch partner i baratoi’ch hunain. Gellir defnyddio gwybodaeth am y math o gyflwr ar gyfer sut, pryd a lle y caiff eich babi ei eni. Gall fod angen i’ch babi gael ei eni mewn ysbyty gwahanol a all ddarparu’r staff a gofal arbenigol y gallai fod ei angen ar eich babi.

Gellir trin nifer bach iawn o gyflyrau cyn i’ch babi gael ei eni.

Os yw’r cyflwr yn ddifrifol, efallai y byddwch yn penderfynu parhau â’ch beichiogrwydd neu ystyried rhoi terfyn ar eich beichiogrwydd. Mae’r rhain yn benderfyniadau anodd a byddwch yn cael amser, gwybodaeth a chymorth i’ch helpu i wneud penderfyniad sy’n iawn i chi.

Mae’n ofidus cael gwybod bod cyflwr gan eich babi heb ei eni ac mae’n anodd penderfynu beth i’w wneud. Mae’r rhan fwyaf o fenywod am gael rhywfaint o gymorth ac mae angen cymorth arnynt. Gallai gael ei rhoi gan eich partner, eich teulu neu’ch ffrindiau neu gan y gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch. Gallwch ddewis dod â’ch partner neu un oedolyn yn unig i apwyntiadau ysbyty gyda chi.