Neidio i'r prif gynnwy

Adran 8 - Rhagor o wybodaeth

 

Argraffwch y dudalen hon

 

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am brofion sgrinio gan eich bydwraig neu’ch meddyg ysbyty (eich obstetregydd) ac o wefan Sgrinio Cyn Geni Cymru.
 

Os byddwch yn symud cartref

Os byddwch yn symud cartref yn ystod eich beichiogrwydd, dywedwch wrth eich bydwraig er mwyn iddi allu diweddaru’ch cofnodion meddygol.
 

Profion preifat

Mae ansawdd y prawf sgrinio a gynigir gan y GIG yng Nghymru yn cael ei fonitro. Mae rhai menywod yn talu’n breifat i gael profion sgrinio.

Nid yw profion sgrinio a gynhelir gan glinigau preifat yn cael eu monitro gan y GIG. Mae hyn yn golygu na fydd gan eich bydwraig wybodaeth am ansawdd a chywirdeb profion sgrinio a gynhelir gan glinigau preifat.
 

Antenatal Results and Choices (ARC)

Llinell gymorth: 0845 077 2290 neu 0207 713 7486 o ffôn symudol

E-bost: info@arc-uk.org

Gwefan: www.arc-uk.org
 

Cymdeithas Syndrom Down

Ffôn: 0333 1212 300

E-bost: info@downs-syndrome.org.uk

Gwefan: www.downs-syndrome.org.uk
 

Sefydliad Cymorth ar gyfer Trisomedd 13/18 (Syndrom Edwards a syndrom Patau) (SOFT UK)

E-bost: enquiries@soft.org.uk

Gwefan: www.soft.org.uk
 

Cymdeithas Anhwylder y Crymangelloedd

E-bost: info@sicklecellsociety.org

Gwefan: www.sicklecellsociety.org
 

Cymdeithas Thalasaemia’r DU

E-bost: info@ukts.org

Gwefan: www.ukts.org
 

CARIS yw Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid a’r gofrestr clefydau prin yn ystod plentyndod ar gyfer Cymru.

Mae CARIS yn casglu gwybodaeth am gyflyrau sy’n effeithio ar y ffordd y mae babanod yn datblygu yn ystod beichiogrwydd. Y cyflyrau hyn yw anomaleddau cynhenid, camffurfiadau neu namau geni. Maent yn cynnwys syndrom Down, namau ar y galon neu wefus hollt.

Mae’n bwysig iawn gwybod mwy am y mathau hyn o gyflyrau a’u hachosion.

Mae CARIS yn defnyddio’r wybodaeth i gael gwybod pa mor gyffredin yw’r cyflyrau hyn. Mae’r wybodaeth y mae CARIS yn ei chasglu hefyd yn helpu i ddangos pa mor dda yw’r gwasanaeth iechyd o ran nodi’r cyflyrau hyn a chaiff ei defnyddio ar gyfer cynllunio gwasanaethau’r dyfodol.

Os amheuir o’ch profion sgrinio bod y mathau hyn o gyflyrau’n ymwneud â’ch beichiogrwydd, bydd y fydwraig neu’r obstetregydd yn trosglwyddo’r wybodaeth am hyn i CARIS.

Mae’r wybodaeth a ddelir ar gofrestr CARIS yn hollol gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo’ch enw i neb arall na’i gyhoeddi.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddog Diogelu Data
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
2 Cwr y Ddinas,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ