Neidio i'r prif gynnwy

Adran 14 -Beth yw prawf area polymorffedd niwcleotid unigol (SNP)?

Dim ond pan mae newidiadau strwythurol penodol i’w gweld ar sgan uwchsain y bydd y prawf yma’n cael ei wneud

Mae prawf arae SNP yn brawf sy’n edrych ar y cromosomau yn y celloedd yn y samplu filws corionig (CVS) neu yn yr hylif amniotig neu sampl CVS. Mae’r prawf yn chwilio am newidiadau bach yn neunyddiau’r genynnau. Efallai fod newid yn y deunydd yn esbonio achos yr annormaleddau a oedd i’w gweld yn ystod sgan uwchsain.

Bydd y prawf arae SNP:

  • yn methu dod o hyd i newidiadau mewn genynnau unigol, fel ffibrosis systig (mae miloedd o enynnau ym mhob cromosom);
  • efallai’n nodi newid yn y cromosomau nad ydynt efallai’n gysylltiedig â’r canfyddiadau a ddaeth i’r amlwg yn ystod y sgan uwchsain (efallai fod y newidiadau yma’n golygu goblygiadau i iechyd eich babi yn y dyfodol neu i iechyd aelodau eraill o’r teulu
  • efallai’n dangos rhai newidiadau yn y cromosomau ac mae’n amhosib rhagweld beth fydd yr effaith ar eich babi.

Mae’r prawf hwn yn chwilio am newidiadau cromosomaidd yn fwy manwl na’r prawf QF-PCR neu’r prawf caryoteip.

 

Canlyniadau prawf arae SNP

Mae’r canlyniadau hyn fel arfer yn barod o fewn tua 14 diwrnod calendr.

Weithiau mae’n cymryd mwy o amser i gwblhau’r profion hyn (nid yw hyn yn golygu bod mwy o siawns y bydd problem gyda’ch babi).

Weithiau, mewn tua 0.4% (1 mewn 250) ni fyddwch yn cael canlyniad. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn cael cynnig prawf amniosentesis arall.

Mewn rhai achosion mae prawf arae SNP yn gallu rhoi canlyniad nad yw’n glir. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi os bydd hyn yn digwydd.

Bydd y prawf arae SNP yn dangos rhyw eich babi. Os nad ydych eisiau gwybod beth yw rhyw eich babi, dywedwch wrth eich bydwraig neu’ch obstetregydd.