Nid oes gan Sgrinio Coluddion Cymru fynediad at gofnodion meddygol. Mae gan Sgrinio Coluddion Cymru fynediad i gronfa ddata genedlaethol meddygon teulu'r GIG, sydd â manylion am enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni a meddygon teulu holl breswylwyr cymwys Cymru. Mae'r system hon wedi'i rheoli'n llym iawn ac mae'n cydymffurfio'n llawn â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).