Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn cael manylion yr holl bobl gymwys o System Demograffig Cymru. Cronfa ddata genedlaethol i feddygon teulu'r GIG yw hon sy'n cynnwys manylion enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni a meddygon teulu holl breswylwyr Cymru. Mae'r system hon wedi'i rheoli'n llym iawn ac mae'n cydymffurfio'n llawn â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).