Mae gennyf rai o symptomau canser y coluddyn. Beth ddylwn i ei wneud?
Os oes gennych unrhyw symptomau, dylech siarad â'ch meddyg. Gall symptomau gael eu hachosi gan nifer o gyflyrau gan gynnwys canser. Os anfonwyd pecyn profi atoch, rydym yn argymell eich bod yn dal i gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio.