Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw risgiau colonosgopi?

Mae risgiau colonosgopi yn brin ond mae angen i chi wybod amdanynt fel y byddwch yn gallu penderfynu ynghylch cael y prawf.

Rhaid cymharu'r risgiau â'r fantais o gael y prawf.

Prif risgiau colonosgopi yw:

  • Rhwyg – Mae leinin y coluddyn yn rhwygo mewn 1 o bob 1,000 o brofion  Mae angen llawdriniaeth bron bob amser i gyweirio'r twll.  Mae'r risg o rwyg yn uwch pan fydd polypau (tyfiannau bach) wedi'u tynnu.
  • Gwaedu - gall hyn ddigwydd lle cymerir y sampl o'ch coluddyn neu pan dynnir polyp. Mae'r risg y bydd hyn yn digwydd mewn oddeutu un o bob 100-200 o brofion. Nid yw’r gwaedu a ddigwydd fel arfer yn ddifrifol ac mae'n aml yn stopio ar ei ben ei hun.