Neidio i'r prif gynnwy

Y pethau i'w cofio cyn gwneud y prawf

Os oes gan yr unigolyn rydych yn ei helpu’r galluedd i benderfynu drosto’i hun, gwnewch yn siˆwr ei fod wedi rhoi ei ganiatâd o’r cam cyntaf un.

Os oes gennych bŵer atwrnai ar gyfer iechyd a lles yr unigolyn rydych chi'n ei helpu, gallwch chi wneud y penderfyniad ar eu rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl ffeithiau am sgrinio'r coluddyn, da a drwg, cyn i chi wneud y penderfyniad. Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar 0800 294 3370 os hoffech drafod unrhyw beth.

Os nad oes gan yr unigolyn y gallu i wneud ei benderfyniad ei hun ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio coluddyn ac nad oes pŵer atwrnai ar gyfer iechyd a lles, bydd angen dod i benderfyniad er budd pennaf yr unigolyn. Er mwyn gwneud penderfyniad budd gorau mae angen sicrhau ac ystyried yr holl wybodaeth berthnasol gan gynnwys:

  • Ymddygiad y person yn y gorffennol - a oedd wedi derbyn y cynnig o sgrinio coluddyn o'r blaen?
  • Dymuniadau a theimladau'r unigolyn yn y gorffennol a'r presennol
  • Unrhyw gredoau a gwerthoedd sydd gan yr unigolyn (neu a oedd yn flaenorol gan yr unigolyn) a allai effeithio neu ddylanwadu ar y penderfyniad
  • Barn unrhyw un sy'n ymwneud â gofal yr unigolyn, neu sydd â diddordeb yn ei les fel aelodau o'r teulu, meddygon teulu, rhoddwyr gofal
  • Os na ellir dod i benderfyniad neu os nad oes unrhyw un sy'n annibynnol ar wasanaethau fel aelodau o'r teulu neu ffrind sy'n gallu cynrychioli'r unigolyn, yna efallai y bydd yr eiriolwr gallu meddyliol annibynnol (IMCA) yn gallu helpu  https://www.scie.org.uk/mca/imca
  • Os ydych chi'n cefnogi unigolyn ag anabledd dysgu gallwch ddod o hyd i wybodaeth Hawdd i'w Darllen ar ein gwefan.

Efallai bydd angen i chi drafod sut byddwch chi’n helpu’r unigolyn. Gyda’ch gilydd, gallwch ddod i benderfyniad ar y canlynol:

  • Yr adeg orau i wneud y prawf
  • Patrwm yr unigolyn o weithio’i gorff
  • Yr un ohonoch a fydd yn ysgrifennu’r manylion ar y pecyn
  • Yr un ohonoch a fydd yn dal y sampl o ysgarthion yr unigolyn.