Neidio i'r prif gynnwy

Hwyluso dewis ar sail gwybodaeth

Mae’n bwysig bod pobl yn gallu dewis ar sail gwybodaeth a fyddan nhw’n cymryd rhan yn y broses sgrinio neu beidio. I wneud hyn, rhaid i bobl gael yr holl ffeithiau da a’r holl ffeithiau drwg cyn y gallan nhw ddod i benderfyniad sydd wedi’i seilio’n gyfan gwbl ar wybodaeth. Cyn y gall rhywun ddewis ar sail gwybodaeth, rhaid iddo gael:

  • Llwybr clir at wybodaeth glir, gryno a chywir sydd wedi’i chyflwyno mewn fformat priodol
  • Mwy o gefnogaeth, os oes angen, i’w helpu i ddeall y wybodaeth am y prawf sgrinio
  • Chyfle i ystyried a deall y wybodaeth.