Neidio i'r prif gynnwy

Dod i benderfyniad

Fel gofalwr, efallai fod gennych eich barn eich hun ynglˆyn â chymryd rhan mewn prawf sgrinio neu beidio. Efallai fod eich barn chi’n wahanol i un y sawl rydych yn gofalu amdano. Efallai eich bod yn teimlo nad yw’r unigolyn rydych yn gofalu amdano’n gwneud y penderfyniad ‘iawn’. Mae’n bwysig eich bod yn cofio mai’ch rôl chi yw rhoi’r wybodaeth gywir (yn y fformat priodol) a chymorth i’r unigolyn er mwyn iddo benderfynu ar sail gwybodaeth a fydd yn cael y prawf sgrinio neu beidio.

Efallai fod galw arnoch i gynorthwyo rhywun:

  • Sy’n gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun
  • Sy’n gallu gwneud penderfyniadau ar rai adegau
  • Neu sy’n methu â gwneud penderfyniadau drosto’i hun.

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod am y pethau y gallwch eu gwneud yn gyfreithlon i helpu rhywun yn y fath sefyllfaoedd, ac am y pethau na allwch eu gwneud. Os yw unigolyn yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun, mater i’r unigolyn hwnnw yw dewis yr hyn mae’n awyddus i’w wneud.

Os yw’r unigolyn yn gallu gwneud penderfyniadau ar rai adegau neu’n methu â gwneud unrhyw benderfyniadau, mae fframwaith cyfreithiol ar gael i wirio a yw’r unigolyn yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Mae’r fframwaith yn cael ei alw’n Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Mae’n bwysig iawn eich bod yn gwybod am y pethau y gallwch eu gwneud dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol, ac am y pethau na allwch eu gwneud. Os ydych chi’n cynorthwyo rhywun i wneud prawf sgrinio’r coluddyn ac rydych yn ansicr sut mae gwneud hynny, dylech gysylltu â’n llinell gymorth ar 0800 294 3370 neu siarad â’ch meddyg teulu.