Neidio i'r prif gynnwy

Mae colled ar glyw eich babi

Mae’r daflen yma i rieni a theulu sydd wedi cael gwybod bod nam ar glyw eu babi.  Mae atebion i nifer o gwestiynau cyffredin yn y daflen.  Mae’n dweud wrthych chi pa gefnogaeth sydd ar gael i chi ac i’ch babi, a ble i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw nam ar y clyw?

Mae yna wahanol fathau o nam ar y clyw.  Mae’r math o nam sydd ar glyw eich babi chi’n dibynnu ar ble yn y glust y mae’r broblem.

Diagram o'r glust

Mae nam synwyrnerfol ar y clyw (sensorineural hearing loss) yn nam parhaol.  Yr enw arall arno yw byddardod nerfol.  Fel rheol, ystyr hyn yw bod problem yn y cochlea, sy’n rhan o’r glust fewnol.

Mae nam dargludol ar y clyw (conductive hearing loss) yn golygu bod seiniau’n methu mynd yn rhwydd trwy’r glust allanol a’r glust ganol i’r glust fewnol.   Fel rheol, mae’n golygu colli’r clyw dros dro, ond fe allai fod yn barhaol yn achos nifer bach o fabanod.

Fe allai plant sydd â nam synwyrnerfol ar eu clyw fod hefyd â nam dargludol dros dro yn y glust ganol.

Mae yna wahanol lefelau o nam ar y clyw.  Mae’n bosib dweud bod y byddardod yn ysgafn, yn gymedrol, yn ddifrifol neu’n llwyr.  Fe fydd eich awdiolegydd yn gallu dweud wrthych chi:

  • pa fath o seiniau mae’ch babi’n eu clywed;
  • pa fath o seiniau mae’ch babi’n cael trafferth eu clywed.

Mae’n annhebygol iawn na fydd eich babi’n gallu clywed unrhyw seiniau o gwbl.

Beth sy’n achosi nam ar y clyw

Mae’r rhan fwyaf o fabanod sydd â nam synwyrnerfol ar eu clyw yn cael eu geni i deuluoedd lle does dim nam ar glyw unrhyw un o aelodau eraill y teulu. Ond, yn achos rhai teuluoedd, mae’n bosib i nam fel hyn gael ei etifeddu.  Dyma rai o’r pethau eraill sy’n gallu achosi nam synwyrnerfol ar y clyw:

  • heintiau (infections) yn ystod beichiogrwydd
  • geni’n gynnar
  • cymhlethdodau yn ystod y geni.

Fe allai’r nam fod yn rhan o anhwylder arall, neu’n gysylltiedig â phroblemau eraill.  Mae’n bosib i nam ar glyw plentyn ddatblygu yn sgîl afiechydon plentyndod fel:

  • clwy'r pennau (mumps)
  • y frech goch
  • llid yr ymennydd.

Yn aml, mae nam dargludol ar y glust ganol yn cael ei achosi gan hylif yn y glust ganol (clust ludiog [glue ear] yw’r enw arall ar yr anhwylder yma).  Fe allai gael ei achosi hefyd gan broblemau wrth i’r glust allanol a’r glust ganol ddatblygu, ond mae hyn yn llai cyffredin.

Fe gewch chi drafod gyda’r doctor arbenigol sy’n gweithio gyda’ch awdiolegydd sut i ddod o hyd i’r rheswm pam mae nam ar glyw eich babi. Yn achos rhai babanod a phlant, efallai na fydd yn bosib dod o hyd i’r rheswm. 

Eich cefnogi chi, a chefnogi’ch babi

Mae pob rhiant yn ymateb yn wahanol pan fydd yn cael gwybod bod nam ar glyw eu babi.   Sut bynnag rydych chi’n teimlo, fe gewch chi ddigon o gefnogaeth.   Fe fydd eich Tîm Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar yn gallu’ch helpu chi, eich babi a’ch teulu. Mae’ch awdiolegydd yn rhan o’r tîm yma, ynghyd ag athro a doctor arbenigol.  Efallai y bydd therapydd lleferydd ac iaith a gweithiwr cymdeithasol yn rhan o’r tîm hefyd. Fe fydd y tîm yn eich cwrdd yn rheolaidd, gan gynnig cefnogaeth drwy gydweithio â chi mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Teclynnau clyw

Fe allai’ch awdiolegydd ddweud wrthych chi y gallai gwisgo teclynnau clyw helpu’ch babi i glywed yn well.  Os byddwch chi’n dewis cael teclynnau clyw i’ch babi, fe fydd yn rhaid gwneud mowld arbennig o’r glust.  Fe fydd yr awdiolegydd yn egluro’r ffordd orau o ddefnyddio’r teclynnau clyw.  Fyddan nhw ddim yn boenus nac yn anghyfforddus i’w gwisgo.  Fe fydd staff y Clinig Clyw’n archwilio clyw eich babi’n rheolaidd, ac yn archwilio’r teclynnau clyw.

Cyfathrebu

Mae plant sydd â nam ar eu clyw a’u teuluoedd yn cyfathrebu â’i gilydd mewn nifer o wahanol ffyrdd.  Fe fydd rhai plant yn dysgu siarad.  Fe fydd eraill yn dysgu defnyddio iaith arwyddion, ac fe fydd rhai’n defnyddio’r ddau ddull o gyfathrebu.  Fe fydd yr athro arbenigol ac aelodau eraill Tîm Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar yn eich helpu chi i ddewis y ffordd orau i chi a’ch babi gyfathrebu â’ch gilydd.  Ar ôl i chi benderfynu, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cyfathrebu’n gyson â’ch babi.

Pan fydd eich plentyn tua 2½ oed, byddwn ni’n gofyn i chi lenwi rhestr wirio iaith i asesu faint o eiriau mae’ch plentyn yn eu defnyddio. Bydd hyn yn helpu i ddangos a yw dysgu’n fuan am y golled ar glyw eich plentyn wedi gwneud y math o wahaniaeth rydyn ni’n ei ddisgwyl.

Addysg

Mae’r rhan fwyaf o blant sydd â nam ar eu clyw yn mynd i’r ysgolion prif ffrwd lleol.  Efallai y bydd angen help arbenigol ar rai plant.  Fe fydd plant eraill yn mynd i ysgolion arbennig i blant byddar.  Fe fydd yr athro arbenigol yn eich helpu chi i ddewis yr ysgol sy’n fwyaf addas i’ch plentyn chi.

Cymorth ariannol

Fe allai fod yn bosib i chi gael budd-daliadau gwladol i’ch helpu chi i ofalu am eich babi.  Fe gewch chi ragor o wybodaeth gan:

  • weithiwr cymdeithasol Tîm Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar,
  • y Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (NDCS),
  • yr Asiantaeth Budd-daliadau, neu’r
  • Ganolfan Gynghori leol.
Rhagor o gefnogaeth

Fe allai’r Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (NDCS)(Dolen Allanol) roi gwybodaeth i chi, a’ch cefnogi.  Mae llinell ffôn arbennig ganddyn nhw i rieni plant sydd â nam ar eu clyw.  Fe fydd eu staff profiadol nhw’n barod i ateb eich cwestiynau chi.

 

Ffôn: 029 2038 4277 (Ll/t)

Ffôn/Ffacs: 029  2037 3474 (Ll)

E-bost: ndcswales@ndcs.org.uk

Llinell gymorth rhadffon: 0808 800 8880 (Ll/t)

Gwefan: www.ndcs.org.uk