Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw colled arwyddocaol ar y clyw?

Colled arwyddocaol ar y clyw yw un sy’n effeithio ar y broses o ddysgu i siarad a datblygu iaith. Mae’r prawf sgrinio ar glyw babanod newydd-anedig yn helpu i adnabod babanod a gafodd eu geni â cholled arwyddocaol ar eu clyw. Mae gwneud hyn yn golygu bod cyfle i gynnig cymorth a gwybodaeth o’r dechrau un i’r babanod a’u teuluoedd. Bydd Tîm Cymorth y Blynyddoedd Cynnar ar gael i ddarparu cefnogaeth ar gyfer chi a'ch babi. Mae’r tîm yn cynnwys awdiolegydd, athro arbenigol ac arbenigwr meddygol, a gallai gynnwys therapydd lleferydd ac iaith a gweithiwr cymdeithasol hefyd.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr asesiad clyw babanod newydd-anedig.