Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw colled ar y clyw?

Mae dau fath o golled ar y clyw, colled synwyrnerfol a cholled ddargludol. Mae’r math o golled sydd ar eich babi’n dibynnu ar ble yn y glust y mae’r broblem.

Mae gwahanol lefelau o golled ar y clyw. Gall olygu byddardod ysgafn, cymedrol, dwys neu lwyr. Gall eich awdiolegydd esbonio’r seiniau y gall eich babi eu clywed a’r rhai y bydd yn ei chael hi’n anodd eu clywed. Mae’n annhebygol iawn na fydd eich babi’n gallu clywed unrhyw seiniau o gwbl.

Colled synwyrnerfol ar y clyw

Mae colled synwyrnerfol (sydd weithiau’n cael ei alw’n fyddardod nerfol) yn golled barhaol ar y clyw. Fel arfer, mae’n golygu bod problem yn y cochlea, sy’n rhan o’r glust fewnol.

Mae’r mwyafrif o fabanod â cholled synwyrnerfol yn cael eu geni i deuluoedd sydd heb unrhyw un arall sy’n fyddar, er y gallai’r fath golled gael ei hetifeddu weithiau. Mae nifer o bethau’n gallu achosi colled synwyrnerfol ar y clyw: heintiau yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth gynnar neu broblemau adeg y geni. Gallai fod yn rhan o gyflwr arall neu’n gysylltiedig ag anawsterau eraill. Mae colled ar y clyw’n gallu datblygu yn sgil heintiau plentyndod fel twymyn doben (clwy pennau), y frech goch neu lid yr ymennydd.

Gall plant â cholled synwyrnerfol ar eu clyw fod â cholled ddargludol dros dro hefyd.
 

Colled ddargludol ar y clyw

Mae colled ddargludol yn golygu nad yw seiniau’n gallu symud trwy’r glust allanol a’r glust ganol i’r glust fewnol. Mae colled ddargludol yn digwydd dros dro fel arfer, ond gallai olygu colled barhaol ar glyw nifer bach iawn o fabanod.

Achos mwyaf cyffredin colled ddargludol ar y clyw yw hylif yn y glust ganol. Achos llai cyffredin yw problem yn y ffordd mae’r glust allanol a’r glust ganol wedi datblygu.