Neidio i'r prif gynnwy

Eich cadw chi a'ch babi yn ddiogel yn eu hapwyntiad sgrinio clyw babanod

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu am iechyd eich baban.

Os yw apwyntiad eich baban mewn clinig cymunedol, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn bresennol oherwydd efallai y byddwn yn gallu cynnig yr apwyntiad hwn i rywun arall.

Eich cadw chi a'ch baban yn ddiogel yn ei apwyntiad

Mae’r mesurau canlynol ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn ystod eu hapwyntiad.

  • Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd.  
  • Mae hylif diheintio dwylo ar gael.
  • Dewch i’ch apwyntiad ar yr amser a nodwyd. Os byddwch yn cyrraedd yn gynnar efallai y bydd yn rhaid i chi aros. Os byddwych chi’n hwyr, efallai na fyddwyn yn gallu sgrinio eich babi.
  • Efallai yr hoffech chi wisgo gorchudd wyneb (mwgwd) wrth ddod i'ch apwyntiad. Os nad oes gennych un, gallwch ofyn i aelod o staff am un.
  • Os oes angen cyfieithydd arnoch, os ydych yn dod gyda gofalwr neu angen cymorth yn eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad i drafod hyn.

 

Cofiwch, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu, peidiwch â mynd i gael eich sgrinio os ydych yn sâl.

Cysylltwch â ni os:
  • oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am apwyntiad sgrinio eich baban.

Rhagor o wybodaeth am sgrinio a’r gwahanol brofion.