Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae menywod yn Lloegr yn cael sgrinio'r fron ychwanegol rhwng 47-40 oed a 71-73 oed?

Bydd rhai menywod rhwng 47-49 oed a 71-73 oed sy'n byw yn Lloegr wedi cael gwahoddiad am sgrinio'r fron fel rhan o dreial. Caiff tua hanner y menywod yn yr ystod oedrannau hyn yn Lloegr eu gwahodd, ac ni chaiff yr hanner arall, fel y gellir cymharu eu profiadau.   

Diben y treial hwn yw gweld a oes mantais i fenywod gael sgrinio'r fron ychwanegol. Ni fydd y canlyniadau ar gael am sawl blwyddyn, ac ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth i gefnogi unrhyw fantais.   

Mae Bron Brawf Cymru a Llywodraeth Cymru yn cadw llygad ar y treial yn Lloegr yn ofalus ac yn aros i weld a fydd y canlyniadau cyn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.