Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'ch prawf Sgrinio Llygaid Diabetig y GIG am ddim

 

 

Cynnwys

― Pam ddylwn i gael prawf sgrinio’r llygaid? 
Pam mae prawf sgrinio’r llygaid yn bwysig i mi?
― Beth yw retinopatheg diabetig?
― Fydda i’n cael prawf sgrinio llygaid diabetig pan fydda i’n mynd i weld yr optegydd? 
― Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad sgrinio llygaid?
― Beth sydd angen i mi feddwl amdano ar ddiwrnod fy apwyntiad?
― Beth os oes angen cymorth arnaf gyda fy apwyntiad?  
― Pa mor effeithiol yw prawf sgrinio’r llygaid?  
― Ydy prawf sgrinio’r llygaid yn gallu fy atal rhag cael retinopatheg?  
― A oes angen i mi fynd i gael sgrinio serfigol os ydw i wedi cael y brechlyn? 
Beth sy’n digwydd os oes gen i retinopatheg diabetig?  
Pa driniaeth sydd ar gael ar gyfer retinopatheg diabetig?  
Sut gallaf leihau fy risg o ddatblygu retinopatheg diabetig?
Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi

Ble alla i gael mwy o wybodaeth?

 

Mae’r daflen hon yn dweud wrthych am brawf sgrinio’r llygaid y GIG am ddim sy’n edrych am retinopatheg diabetig

 

  • Mae pobl 12 oed a hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio’r llygaid rheolaidd.
  • Gall prawf sgrinio’r llygaid achub eich golwg.
  • Mae prawf sgrinio’r llygaid yn edrych am retinopatheg (niwed i gefn y llygaid).
  • Mae retinopatheg diabetig yn gyflwr y gellir ei drin.
  • Mae sgrinio’r llygaid yn bwysig gan ei fod yn canfod newidiadau cyn i chi sylwi arnyn nhw.
  • Y ffordd orau i edrych am retinopatheg diabetig yw cymryd llun o gefn eich llygaid.
  • Mae prawf sgrinio’r llygaid yn cael ei gynnal mewn clinigau iechyd lleol, ysbytai neu unedau symudol gan Sgriniwr Llygaid hyfforddedig.
Nid yw’r prawf sgrinio’r llygaid yn cymryd lle eich prawf llygaid arferol. Bydd angen i chi fynd at eich optegydd o hyd.

 

Pam ddylwn i gael prawf sgrinio’r llygaid?

Mae eich meddyg teulu wedi gofyn i ni sgrinio eich llygaid. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim ac yn rhan o’ch gofal diabetig cyffredinol.

Mae eich diabetes yn golygu bod gennych risg o ddatblygu clefyd llygaid diabetig (retinopatheg diabetig). Gall clefyd llygaid diabetig arwain at golli eich golwg.

Gall prawf sgrinio’r llygaid ganfod y cyflwr yn gynnar cyn i chi sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich golwg.

Llygad arferol

Llygad gyda Retinopathi

 

Pam mae prawf sgrinio’r llygaid yn bwysig i mi?

Os bydd y newidiadau’n cael eu canfod yn gynnar, mae’n bosibl trin clefyd llygaid diabetig, ac atal y rhan fwyaf o bobl rhag colli eu golwg. Gall mynd am brawf sgrinio llygaid rheolaidd pan gewch eich gwahodd ganfod retinopatheg diabetig yn gynnar.

 

Beth yw retinopatheg diabetig?

Mae’r cyflwr hwn yn effeithio ar y pibellau gwaed bach yng nghefn y llygad (y retina). Gall achosi i’r pibellau ollwng neu gael eu blocio.

Y retina yw’r rhan o’r llygad sy’n gweld, os caiff ei niweidio gall effeithio ar eich golwg.

Os oes gennych retinopatheg diabetig, efallai na fyddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar eich golwg. Fodd bynnag, os na fydd yn cael ei drin, gall y cyflwr hwn waethygu ac effeithio ar eich golwg. Gall retinopatheg diabetig gynyddu ac arwain at golli eich golwg yn barhaol, gan gynnwys dallineb.

 

Fydda i’n cael prawf sgrinio llygaid diabetig pan fydda i’n mynd i weld yr optegydd?

Na fyddwch, mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i’ch prawf llygaid arferol gydag optegydd. I gadw eich llygaid yn iach mae’n bwysig eich bod yn mynd i apwyntiadau gyda’r optegydd ac i apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig yn rheolaidd.

 

Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad sgrinio llygaid?

  • Bydd eich apwyntiad yn cymryd tua 40 munud.
  • Ar ôl i chi gyrraedd, byddwn yn trafod y broses sgrinio gyda chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi ofyn.
  • Bydd diferion yn cael eu rhoi yn eich llygaid i wneud cannwyll eich llygaid yn fwy. Bydd hyn yn ein helpu i dynnu lluniau cliriach o gefn eich llygaid.

Yr eiris arferol

Yr eiris ar ôl diferion llygaid (ymledu)

  • Mae rhai pobl yn teimlo bod y diferion yn anghyfforddus am gyfnod byr.
  • Bydd angen i chi aros am tuag 20 munud i'r diferion weithio.
  • Efallai y bydd eich golwg yn mynd yn aneglur. Gall hyn bara am sawl awr, gan ei gwneud yn beryglus i yrru neu ddefnyddio peiriannau. Ni ddylech yrru am o leiaf 4 awr.
  • Yna byddwn yn tynnu lluniau o gefn eich llygaid gan ddefnyddio camera arbennig gyda fflach.
  • Ni fyddwch yn cael eich canlyniadau ar y diwrnod.
  • Yna bydd y lluniau o'ch llygaid yn cael eu hanfon i gael eu gwirio am retinopatheg diabetig gan ein tîm arbenigol.
  • Byddwch yn cael eich llythyr canlyniadau drwy’r post o fewn wyth wythnos.
  • Bydd eich canlyniadau’n cael eu hanfon at eich meddyg hefyd.

 

Beth sydd angen i mi feddwl amdano ar ddiwrnod fy apwyntiad?

  • Dewch a phob sbectol rydych chi’n ei gwisgo gyda chi.
  • Os ydych yn gwisgo lensys cyffwrdd fel arfer bydd angen i chi dynnu'r rhain, felly dewch â chas a hylif lensys.
  • Dewch a sbectol haul oherwydd gall eich llygaid deimlo’n sensitif i olau ar ôl cael y diferion llygaid. Mae hyn yn syniad da hyd yn oed os yw’n dywyll y tu allan.
  • Dewch a byrbryd gan nad oes cyfleusterau bwyd mewn rhai lleoliadau; yn enwedig os oes gennych anghenion deietegol.
  • Ni fyddwch yn gallu gyrru am beth amser ar ôl eich apwyntiad. Efallai y byddwch yn dymuno dod a rhywun gyda chi i’ch helpu.
  • Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd monitro lefelau eich glwcos tra bod y diferion llygaid yn gwneud eich golwg yn aneglur.
  • Tra bydd eich golwg yn aneglur ar ôl y diferion llygaid, gall hyn wneud mesur dos o inswlin yn anoddach. Dydyn ni ddim yn gyfarwydd â’ch dyfeisiau ac ni allwn eich helpu. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod yr amser hwn.

 

Beth os oes angen cymorth arnaf gyda fy apwyntiad?

Os oes angen help arnoch gyda’ch apwyntiad sgrinio rhowch wybod i ni. Dylech ein ffonio ar 0300 003 0500:

  • Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall, e.e. hawdd ei deall.
  • Os oes angen cyfieithydd neu ddehonglydd ar gyfer eich apwyntiad, e.e. Iaith Arwyddion Prydain neu os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf.

Ni all aelodau o’ch teulu gyfieithu i chi. Bydd angen i chi roi gwybod i ni cyn eich apwyntiad fel y gallwn drefnu hyn i chi.

  • Os oes gennych anabledd, er mwyn i ni allu sicrhau bod y lleoliad sgrinio rydym yn ei gynnig yn addas.
  • Os ydych yn meddwl na fyddwch yn gallu eistedd yn y safle iawn wrth ein camerâu.

Lleoliad eistedd y camera

  • Os oes angen i chi ddod ag aelod o’r teulu neu ofalwr gyda chi i’ch helpu yn ystod eich apwyntiad.
  • Os ydych yn bwriadu defnyddio cerbydau’r ysbyty i ddod i’r clinig (ond ni allwn drefnu hyn i chi).

 

Os ydych chi'n ofalwr sy'n helpu rhywun nad yw'n gallu cydsynio i brawf sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad.

Os ydych chi'n ofalwr gydag Atwrneiaeth Iechyd a Lles ar gyfer y person sydd wedi cael gwahoddiad sgrinio, dewch â'r prawf adnabod a'r ddogfen Atwrneiaeth i'r clinig.
 

Ateb eich cwestiynau

 

Pa mor effeithiol yw prawf sgrinio’r llygaid?

Mae prawf sgrinio’r llygaid yn rhan allweddol o’ch gofal diabetig. Retinopatheg diabetig heb ei drin yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o golli golwg. Gall sgrinio ganfod newidiadau yn y retina yn gynnar, cyn i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

Bydd prawf sgrinio’r llygaid yn canfod newidiadau yn y llygaid ar gyfer mwy nag 19 o bob 20 o bobl.

Os bydd y newidiadau hyn cael eu darganfod mewn pryd, mae triniaeth effeithiol iawn ar gael i atal colli golwg i’r mwyafrif o bobl.

Bydd tuag 1 o bob 50 o bobl sy’n cael y prawf yn cael eu cyfeirio at arbenigwr llygaid ar gyfer ymchwiliad neu driniaeth ar gyfer eu retinopatheg.

 

Ydy prawf sgrinio’r llygaid yn gallu fy atal rhag cael retinopatheg?

Nac ydy. Mae prawf sgrinio’r llygaid yn gallu darganfod retinopatheg yn gynnar, ond nid yw’n ei atal rhag datblygu.

 

A oes angen i bob person gyda diabetes gael eu sgrinio?

Os ydych wedi cael diagnosis o diabetes ac yn 12 oed neu’n hŷn, byddwch yn cael gwahoddiad. Yr unig eithriad yw pobl sy’n ddall yn y ddwy lygad.

Does dim gwahaniaeth sut mae’ch diabetes yn cael ei reoli, p’un a ydych yn gweld eich meddyg teulu neu ymgynghorydd mewn ysbyty, mae angen i chi gael prawf sgrinio.

 

Beth sy’n digwydd os oes gen i retinopatheg diabetig?

Yn dibynnu ar lefel y retinopatheg diabetig ac unrhyw arwydd o golli golwg, efallai y cewch eich cyfeirio at glinig llygaid arbenigol i gael asesiad arall a thriniaeth.

Gall prawf sgrinio’r llygaid ganfod retinopatheg na fydd angen ei drin o bosibl. Mae’r rhan fwyaf o bobl â retinopatheg (9 o bob 10) yn cael eu monitro drwy brofion sgrinio blynyddol ac nid oes angen eu hatgyfeirio.

 

Pa driniaeth sydd ar gael ar gyfer retinopatheg diabetig?

Mae triniaeth laser a phigiadau llygaid yn effeithiol iawn i’r mwyafrif o bobl o ran atal colli golwg os cant eu gwneud ar yr adeg gywir. Bydd yr arbenigwyr yn yr ysbyty yn egluro hyn i chi.

P’un a oes gennych retinopatheg diabetig ai peidio, mae bob amser yn bwysig ceisio cadw lefel y glwcos yn eich gwaed, eich pwysau gwaed a’ch colesterol ar eich lefelau targed. Gall hyn arafu neu wyrdroi niwed cynnar i’r llygaid gan retinopatheg.

 

Sut gallaf leihau fy risg o ddatblygu retinopatheg diabetig?

  • Rheoli eich diabetes yn fanwl, gan gynnwys gwirio lefel y glwcos yn eich gwaed.
  • Cadw eich apwyntiadau diabetes a mynd i weld eich meddyg teulu’n rheolaidd i wirio eich pwysedd gwaed a’ch colesterol.
  • Cymryd eich meddyginiaeth gan ddilyn y presgripsiwn.
  • Peidio â smygu. Am gyngor a chymorth neu i ddod o hyd i’ch gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu lleol, ewch i: www.helpafiistopio.cymru
  • Siarad â’ch meddyg neu’ch optegydd os ydych yn sylwi ar unrhyw newid yn eich golwg.
  • Mynd i’ch apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig pan gewch eich gwahodd.
  • Bwyta’n dda. • Symud mwy. • Cyfyngu ar faint o alcohol rydych chi’n ei yfed.

COFIWCH: Dim ond rhan o reoli eich diabetes ydi sgrinio'r llygaid ac mae'n bosibl trin retionpatheg diabetig, yn enwedig os caiff ei ganfod yn gynnar.

 

Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi

Mae angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol fel ein bod yn gwybod os a phryd mae gennych apwyntiad neu a ydych wedi penderfynu peidio â chael un.

Mae eich cofnodion sgrinio, yn cynnwys ffotograffau a chofnodion o’r camau gweithredu, yn cael eu cadw gan y rhaglen sgrinio.

I gael mwy o wybodaeth, mae’n datganiad preifatrwydd ar gael ar wefan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.

Os hoffech gopi caled, cysylltwch â’n canolfan sgrinio ar 0300 003 0500.

 

O ble gawsoch chi fy manylion personol?

Mae’r rhaglen sgrinio yn cael manylion amdanoch chi, a gwybodaeth yn gysylltiedig â’ch diabetes, gan eich meddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys eich enw, dyddiad geni a’ch cyfeiriad. Efallai y byddwn hefyd yn cadw gwybodaeth a fydd yn effeithio eich apwyntiadau sgrinio (e.e. anghenion ieithyddol).

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhoi i neb y tu allan i’r GIG.

Os nad ydych yn dymuno i’ch gwybodaeth gael ei rhoi i’r rhaglen sgrinio, dylech drafod hyn gyda’ch meddyg teulu gan na fyddwn yn gallu eich sgrinio.

 

Ble alla i gael mwy o wybodaeth?

Eich dewis chi cael eich sgrinio neu beidio. Os byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau mwy o wahoddiadau, gallwch optio allan drwy gysylltu â ni. I gael mwy o wybodaeth ewch Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, 1 Llys Fairway, Glan-Bad, Trefforest CF37 5UA, 0300 003 0500.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg heb oedi.

Gallwch ddarllen mwy am sgrinio'r llygaid a retinopatheg diabetig ar:

NHS UK: LLygaid Diabetig (Saesneg yn unig)

Diabetes.ORG: Retinopathy (Saesneg yn unig)