Neidio i'r prif gynnwy

Dwy flynedd o wybodaeth yn dwyn i gof

 

 

Cynnwys

― Beth sydd wedi newid i bobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig?
― Pam mae’r newid hwn wedi’i wneud?  
― Beth yw ystyr ‘risg isel o glefyd llygaid diabetig’?  
― Pwy sy’n gymwys?  
― Beth sy’n digwydd os ydw i’n feichiog? 
A fyddaf bob amser yn cael fy ngalw bob dwy flynedd?  
Beth os byddaf yn datblygu clefyd llygaid rhwng apwyntiadau sgrinio?  
Beth os byddaf yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’m golwg neu os ydw i’n poeni am fy ngolwg rhwng apwyntiadau sgrinio
I gael rhagor o wybodaeth

 

Os na chanfu eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig, byddwch bellach yn cael eich sgrinio’n ddiogel bob dwy flynedd yn hytrach na bob blwyddyn.


Bydd pawb arall yn cael eu sgrinio fel arfer.

 

Beth sydd wedi newid i bobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig?

Bydd pobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig bellach yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob dwy flynedd yn hytrach na bob blwyddyn.

 

Pam mae’r newid hwn wedi’i wneud?

Mae’r dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel i bobl heb glefyd llygaid diabetig wedi’i ganfod gael eu sgrinio bob dwy flynedd.Bydd y newid hwn yn ein
helpu i weld pobl sy’n wynebu risg uwch o glefyd llygaid diabetig yn gynt.

Mae’r newid hwn wedi’i argymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru. Mae eisoes wedi’i wneud yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Beth yw ystyr ‘risg isel o glefyd llygaid diabetig’?

Rydych yn wynebu risg isel os nad oedd eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig.

 

Pwy sy’n gymwys? 

Byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio bob dwy flynedd os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn 12 oed neu drosodd ac mae gennych ddiabetes math 1 neu fath 2

ac

  • ni chanfu eich dau sgrinio diwethaf unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig

 

Beth sy’n digwydd os ydw i’n feichiog?

Os ydych yn feichiog, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach. Mae hyn oherwydd eich bod yn wynebu risg uwch o glefyd llygaid diabetig yn ystod beichiogrwydd.

 

A fyddaf bob amser yn cael fy ngalw bob dwy flynedd?

Byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio bob dwy flynedd ar yr amod na chanfyddir unrhyw newidiadau yn eich apwyntiadau sgrinio. Os canfyddir newidiadau, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach.

 

Beth os byddaf yn datblygu clefyd llygaid rhwng apwyntiadau sgrinio?

Mae’r dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel i bobl heb glefyd llygaid diabetig wedi’i ganfod gael eu sgrinio bob dwy flynedd.

Os bydd clefyd llygaid diabetig yn datblygu yn y ddwy flynedd rhwng eich apwyntiadau sgrinio, bydd yn cael ei ganfod ar gam cynnar, pan fydd gennych y siawns orau o driniaeth lwyddiannus.

 

Beth os byddaf yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’m golwg neu os ydw i’n poeni am fy ngolwg rhwng apwyntiadau sgrinio?

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, cysylltwch â’ch practis optometreg lleol ar unwaith.


Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.

 

I gael rhagor o wybodaeth:

Gwefan: icc.gig.cymru/sldc
Ffôn: 0300 003 0500
E-bost: deswenquiries@wales.nhs.uk

 

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.