Y newyddion da yw bod ein cyswllt â phlwm wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ac mae ffyrdd syml o atal cyswllt.
- Golchi dwylo a theganau plant yn rheolaidd fel bod unrhyw lwch plwm sy’n dod i gysylltiad â hwy’n cael ei olchi i ffwrdd.
- Cadw llygad ar beth mae plant yn ei roi yn eu ceg.
- Osgoi defnyddio moddion cartref traddodiadol a cholur neu offer coginio traddodiadol nad ydynt yn ddi-blwm neu sydd wedi’u mewnforio o dramor.
- Gwneud yn siŵr bod teganau eich plant wedi’u stampio gyda Nod ‘CE’. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu gwirio ac yn ddiogel.
- Os ydych chi’n byw mewn tŷ a gafodd ei adeiladu cyn y 1970au, dylech gymryd yn ganiataol bod rhywfaint o baent plwm ynddo. Glanhewch yr arwynebau wedi’u paentio’n rheolaidd. Gwnewch yn siŵr bod plant yn osgoi ardaloedd lle mae paent yn dod i ffwrdd.
- Os ydych chi’n bryderus bod gan eich tŷ bibellau plwm ynddo, gallwch gael profi eich dŵr am ddim.
- Os ydych chi’n poeni bod rhywun yn eich teulu wedi dod i gysylltiad â phlwm, siaradwch gyda’ch meddyg teulu.