Neidio i'r prif gynnwy

Pa sefydliadau eraill mae angen cysylltu â nhw?

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn sicrhau bod gweithleoedd yn dilyn cyfreithiau i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu diogelu rhag dod i gysylltiad ag asbestos ac mae hefyd yn gyfrifol am drwyddedu contractwyr i weithio gydag asbestos. Gall erlyn y rhai nad ydynt yn dilyn y cyfreithiau ar reoli asbestos. Mae ganddo hefyd gyfres o dudalennau gwe sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth am asbestos

Gellir cysylltu ag Adrannau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol am gyngor ar reoli asbestos. Dylid cysylltu â hwy hefyd os ydych yn amau bod rhywun wedi bod yn tipio asbestos yn anghyfreithlon.